RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 7YMWARED YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD
Treth a ordalwyd etc.
I1I263Hawlio F1rhyddhad rhag treth a ordalwyd etc.
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
pan fo person wedi talu swm o dreth ddatganoledig ond yn credu nad oedd y dreth ddatganoledig i’w chodi arno, neu
b
pan aseswyd bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, neu pan fo dyfarniad F2ACC wedi ei wneud bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, ond bod y person yn credu na ddylid codi’r dreth ddatganoledig arno.
2
Caiff y person wneud hawliad i ACC ad-dalu’r swm neu F6ollwng y swm.
3
4
At ddibenion yr adran hon ac adrannau F563A i 81, trinnir swm a delir gan un person ar ran person arall fel swm a dalwyd gan y person arall.
63AF3Hawlio rhyddhad mewn cysylltiad â threth trafodiadau tir: rheoliadau yn peidio â chael effaith
1
Os yw—
a
yn rhinwedd adran 26(2) o DTTT, y bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir mewn rheoliadau a wrthodir yn gymwys i drafodiad trethadwy, a
b
o ganlyniad, swm y dreth trafodiadau tir sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi fel arall,
caiff y prynwr yn y trafodiad wneud hawliad i ACC am ollwng neu ad-dalu’r swm o dreth trafodiadau tir na fyddai wedi bod i’w godi pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.
2
Pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i hawliad o dan is-adran (1) rhaid iddo hefyd ollwng neu ad-dalu unrhyw gosb neu log sy’n perthyn i’r swm o dreth a ollyngir neu a ad-delir.
3
Mae unrhyw gosb neu log yn perthyn i swm o dreth at y diben hwn i’r graddau—
a
y mae i’w phriodoli neu i’w briodoli i’r swm, a
b
na fyddid wedi mynd iddo oni bai am gymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir i’r trafodiad o dan sylw.
4
Rhaid i hawliad o dan is-adran (1) gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r hwyraf o—
a
y dyddiad y mae’r rheoliadau a wrthodir yn peidio â chael effaith, neu
b
dyddiad ffeilio ffurflen dreth sy’n cynnwys asesiad o’r dreth sydd i’w chodi a gyfrifir gan ddefnyddio’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir.
5
Mae hawliad o dan is-adran (1) i’w drin fel pe bai’n ddiwygiad a wneir o dan adran 41 i’r asesiad o’r dreth sydd i’w chodi sydd wedi ei gynnwys mewn ffurflen dreth.
6
Yn yr adran hon—
mae i “rheoliadau a wrthodir” (“rejected regulations”) yr ystyr a roddir gan adran 26(1)(a) o DTTT;
mae i “trafodiad trethadwy” (“chargeable transaction”) yr ystyr a roddir gan adran 17 o’r Ddeddf honno.