RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

C2C1PENNOD 7F4RHYDDHAD YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD

Annotations:

Treth a ordalwyd etc.

I2I163Hawlio F8rhyddhad rhag treth a ordalwyd etc.

1

Mae’r adran hon yn gymwys—

a

pan fo person wedi talu swm o dreth ddatganoledig ond yn credu nad oedd y dreth ddatganoledig i’w chodi arno, neu

b

pan aseswyd bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, neu pan fo dyfarniad F6ACC wedi ei wneud bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, ond bod y person yn credu na ddylid codi’r dreth ddatganoledig arno.

2

Caiff y person wneud hawliad i ACC ad-dalu’r swm neu F7ollwng y swm.

3

Pan fo’r adran hon yn gymwys, nid yw ACC yn rhwym i roi F5rhyddhad ac eithrio fel y darperir yn y Rhan hon neu drwy neu o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau eraill F3Deddfau Trethi Cymru.

4

At ddibenion yr adran hon ac adrannau F263A i 81, trinnir swm a delir gan un person ar ran person arall fel swm a dalwyd gan y person arall.

63AF1Hawlio rhyddhad mewn cysylltiad â threth trafodiadau tir: rheoliadau yn peidio â chael effaith

1

Os yw—

a

yn rhinwedd adran 26(2) o DTTT, y bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir mewn rheoliadau a wrthodir yn gymwys i drafodiad trethadwy, a

b

o ganlyniad, swm y dreth trafodiadau tir sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi fel arall,

caiff y prynwr yn y trafodiad wneud hawliad i ACC am ollwng neu ad-dalu’r swm o dreth trafodiadau tir na fyddai wedi bod i’w godi pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.

2

Pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i hawliad o dan is-adran (1) rhaid iddo hefyd ollwng neu ad-dalu unrhyw gosb neu log sy’n perthyn i’r swm o dreth a ollyngir neu a ad-delir.

3

Mae unrhyw gosb neu log yn perthyn i swm o dreth at y diben hwn i’r graddau⁠—

a

y mae i’w phriodoli neu i’w briodoli i’r swm, a

b

na fyddid wedi mynd iddo oni bai am gymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir i’r trafodiad o dan sylw.

4

Rhaid i hawliad o dan is-adran (1) gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r hwyraf o—

a

y dyddiad y mae’r rheoliadau a wrthodir yn peidio â chael effaith, neu

b

dyddiad ffeilio ffurflen dreth sy’n cynnwys asesiad o’r dreth sydd i’w chodi a gyfrifir gan ddefnyddio’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir.

5

Mae hawliad o dan is-adran (1) i’w drin fel pe bai’n ddiwygiad a wneir o dan adran 41 i’r asesiad o’r dreth sydd i’w chodi sydd wedi ei gynnwys mewn ffurflen dreth.

6

Yn yr adran hon—

  • mae i “rheoliadau a wrthodir” (“rejected regulations”) yr ystyr a roddir gan adran 26(1)(a) o DTTT;

  • mae i “trafodiad trethadwy” (“chargeable transaction”) yr ystyr a roddir gan adran 17 o’r Ddeddf honno.