RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 8GWEITHDREFN AR GYFER GWNEUD HAWLIADAU ETC.
I1I2068Gwneud hawliadau
1
Rhaid gwneud hawliad o dan adran 62 F1, 63 neu 63A ar unrhyw ffurf a bennir gan ACC.
2
Rhaid i’r ffurflen hawlio ddarparu ar gyfer datganiad i’r perwyl bod yr holl fanylion a roddwyd ar y ffurflen wedi eu datgan yn gywir hyd eithaf gwybodaeth a chred yr hawlydd.
3
Caiff y ffurflen hawlio wneud y canlynol yn ofynnol—
a
datganiad o’r swm o dreth ddatganoledig y bydd yn ofynnol ei F7ollwng neu ei ad-dalu er mwyn rhoi effaith i’r hawliad;
b
unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol at ddiben penderfynu a yw’r hawliad yn gywir, ac os felly, i ba raddau y mae’n gywir;
c
darparu gyda’r hawliad unrhyw ddatganiadau a dogfennau, sy’n ymwneud â’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr hawliad, sy’n rhesymol ofynnol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (b).
4
Ni chaniateir hawlio ad-daliad o dreth ddatganoledig oni bai bod gan yr hawlydd dystiolaeth ddogfennol bod y dreth ddatganoledig wedi ei thalu.
5
Ni chaniateir gwneud hawliad o dan adran 63 drwy ei gynnwys mewn ffurflen dreth.
I269Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel
1
Rhaid i berson sy’n gwneud hawliad o dan adran 62 neu 63—
a
bod wedi cadw unrhyw gofnodion y mae eu hangen er mwyn galluogi’r person i wneud hawliad cywir a chyflawn, a
b
storio’r cofnodion hynny yn ddiogel yn unol â’r adran hon.
2
Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd yr olaf o’r canlynol—
a
(ac eithrio pan fo paragraff (b) neu (c) yn gymwys) diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr hawliad;
b
pan fo ymholiad i’r hawliad, neu i ddiwygiad i’r hawliad, y diwrnod y cwblheir yr ymholiad;
c
pan fo’r hawliad wedi ei ddiwygio ac nad oes ymholiad i’r diwygiad, y diwrnod pan fo pŵer ACC i gynnal ymholiad i’r diwygiad yn dod i ben.
I153
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
a
darparu bod y cofnodion y mae’n ofynnol eu cadw a’u storio’n ddiogel o dan yr adran hon yn cynnwys cofnodion o ddisgrifiad a ragnodir gan y rheoliadau, neu ddarparu nad ydynt yn cynnwys cofnodion o’r fath;
b
rhagnodi disgrifiadau o ddogfennau ategol y mae’n ofynnol eu cadw o dan yr adran hon.
I154
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth drwy gyfeirio at bethau a bennir mewn hysbysiad a gyhoeddir gan ACC yn unol â’r rheoliadau (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl gan hysbysiad dilynol).
5
Mae “dogfennau ategol” yn cynnwys cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau.
I3I2870Storio gwybodaeth etc. yn ddiogel
Caiff y ddyletswydd o dan adran 69 i storio cofnodion yn ddiogel ei bodloni—
a
drwy eu storio’n ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, neu
b
drwy storio’r wybodaeth sydd ynddynt yn ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
I4I2371Hawlydd yn diwygio hawliad
1
Caiff person sydd wedi gwneud hawliad o dan adran 62 F6, 63 neu 63A ddiwygio’r hawliad drwy roi hysbysiad i ACC.
2
Ni chaniateir gwneud diwygiad o’r fath—
a
dros 12 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu
b
os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—
i
sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a
ii
sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.
I5I1672ACC yn cywiro hawliad
1
Caiff ACC ddiwygio hawliad drwy ddyroddi hysbysiad i’r hawlydd er mwyn cywiro gwallau neu hepgoriadau amlwg yn yr hawliad (boed wallau o ran egwyddor, camgymeriadau rhifyddol neu fel arall).
2
Ni chaniateir gwneud cywiriad o’r fath—
a
dros 9 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu
b
os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—
i
sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad, a
ii
sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.
3
Nid oes unrhyw effaith i gywiriad o dan yr adran hon os yw’r hawlydd, o fewn y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cywiriad, yn rhoi hysbysiad i ACC yn gwrthod y cywiriad.
I6I2473Rhoi effaith i hawliadau a diwygiadau
1
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i hawliad gael ei wneud, ei ddiwygio neu ei gywiro—
a
rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r hawlydd, a
b
pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i’r hawliad neu’r diwygiad (boed yn rhannol neu’n llawn), rhaid iddo wneud hynny drwy F3ollwng y swm o dreth ddatganoledig neu ei ad-dalu i’r hawlydd.
2
Pan fo ACC yn gwneud ymholiad ynghylch hawliad neu ddiwygiad—
a
nid yw is-adran (1) yn gymwys hyd oni ddyroddir hysbysiad cau o dan adran 75, ac yna mae’n gymwys yn ddarostyngedig i adran 77, ond
b
caiff ACC roi effaith i’r hawliad neu’r diwygiad unrhyw bryd cyn hynny, ar sail dros dro, i unrhyw raddau y mae’n eu hystyried yn briodol.
I7I17C374Hysbysiad ymholiad
1
Caiff ACC wneud ymholiad i hawliad person neu i’w ddiwygiad o hawliad os yw’n dyroddi hysbysiad i’r hawlydd o’i fwriad i wneud hynny (“hysbysiad ymholiad”) cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad neu’r diwygiad.
2
Ni chaiff hawliad neu ddiwygiad a fu’n destun un hysbysiad ymholiad fod yn destun un arall.
I8I18C375Cwblhau ymholiad
1
Mae ymholiad wedi ei gwblhau pan fydd ACC yn dyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau”) i’r hawlydd yn datgan—
a
bod yr ymholiad wedi ei gwblhau, a
b
casgliadau’r ymholiad.
2
Rhaid i hysbysiad cau naill ai—
a
datgan nad oes angen diwygio’r hawliad ym marn ACC, neu
b
os yw’r hawliad yn annigonol neu’n ormodol ym marn ACC, diwygio’r hawliad er mwyn gwneud iawn am y diffyg neu’r gormodedd, neu ddileu’r diffyg neu’r gormodedd.
3
Yn achos ymholiad i ddiwygiad o hawliad, nid yw is-adran (2)(b) yn gymwys ond i’r graddau y gellir priodoli’r diffyg neu’r gormodedd i’r diwygiad.
I9I26C376Cyfarwyddyd i gwblhau ymholiad
1
Caiff yr hawlydd wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi o fewn cyfnod penodedig.
2
Rhaid i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd oni bai ei fod yn fodlon bod gan ACC seiliau rhesymol dros beidio â dyroddi hysbysiad cau o fewn y cyfnod penodedig.
I10I27C377Rhoi effaith i ddiwygiadau o dan adran 75
1
Rhaid i ACC, o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir hysbysiad o dan adran 75(2)(b) roi effaith i’r diwygiad drwy wneud unrhyw addasiad a all fod yn angenrheidiol, boed—
a
ar ffurf asesiad o’r hawlydd, neu
b
drwy ad-dalu treth ddatganoledig neu F4ei gollwng.
2
Nid yw asesiad a wneir o dan is-adran (1) oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod a grybwyllir yn yr is-adran honno.
I11I2578Terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadau
Rhaid i hawliad o dan adran 62 neu 63 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y mae’r taliad ar ffurf treth ddatganoledig, neu’r asesiad neu’r dyfarniad, yn ymwneud â hi.
I12I21C279Yr hawlydd: partneriaethau
1
Mae’r adran hon yn ymwneud â chymhwyso adran 63 mewn achos pan fo naill ai—
a
(mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(a)) y person wedi talu’r swm o dan sylw yn rhinwedd y ffaith ei fod yn bartner mewn partneriaeth, neu
b
(mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(b)) yr asesiad wedi ei wneud o’r person yn y rhinwedd honno, neu’r dyfarniad yn ymwneud â’i rwymedigaeth yn y rhinwedd honno.
2
Mewn achos o’r fath, dim ond person perthnasol sydd wedi ei enwebu i wneud hynny gan yr holl bersonau perthnasol a gaiff wneud hawliad o dan adran 63 mewn perthynas â’r swm o dan sylw.
3
Y personau perthnasol yw’r personau a fyddai wedi bod yn agored fel partneriaid i dalu’r swm o dan sylw pe byddai’r taliad wedi bod yn ddyledus neu (mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(b)) pe byddai’r asesiad neu’r dyfarniad wedi ei wneud yn gywir.
I13I19C180Asesiad o hawlydd mewn cysylltiad â hawliad
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
pan wneir hawliad o dan adran 63,
b
pan fo’r seiliau ar gyfer rhoi effaith i’r hawliad hefyd yn rhoi seiliau ar gyfer asesiad ACC o’r hawlydd mewn perthynas â’r dreth ddatganoledig, ac
c
pe gellid gwneud asesiad o’r fath oni bai am gyfyngiad perthnasol.
2
Mewn achos sy’n dod o fewn adran 79(1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad at yr hawlydd yn is-adran (1)(b) o’r adran hon yn cynnwys unrhyw berson perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 79(3)).
3
Mae’r canlynol yn gyfyngiadau perthnasol—
a
adran 58;
b
terfyn amser ar gyfer gwneud asesiad ACC yn dod i ben.
4
Pan fo’r adran hon yn gymwys—
a
mae’r cyfyngiadau perthnasol i’w diystyru, a
b
nid yw asesiad ACC oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud cyn dyfarnu’n derfynol ar yr hawliad.
5
Nid yw hawliad wedi ei ddyfarnu’n derfynol—
a
hyd na ellir amrywio’r hawliad mwyach, neu
b
hyd na ellir amrywio’r swm y mae’n berthnasol iddo mwyach,
(boed drwy adolygiad, drwy apêl neu fel arall).
I14I2281Setliadau contract
1
Mae’r cyfeiriad yn adran 63(1)(a) at swm o dreth ddatganoledig a dalwyd gan berson yn cynnwys swm a dalwyd gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â threth ddatganoledig y credwyd ei bod yn daladwy.
F21A
Yn adran 63A(1), mae’r cyfeiriad at ad-dalu swm o dreth trafodiadau tir yn cynnwys ad-dalu swm a delir gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â’r swm hwnnw o dreth trafodiadau tir.
2
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys os nad yr un person yw’r person a dalodd y swm o dan y setliad contract (“y talwr”) a’r person yr oedd y dreth ddatganoledig yn daladwy ganddo (“y trethdalwr”).
3
Mewn perthynas â hawliad o dan adran 63 mewn cysylltiad â’r swm hwnnw—
a
mae’r cyfeiriadau at yr hawlydd yn adran 67(5), (6) ac (8) yn cael effaith fel pe baent yn cynnwys y trethdalwr, a
b
mae’r cyfeiriadau at yr hawlydd yn adrannau 67(9) a 80(1)(b) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y trethdalwr.
4
Mewn perthynas â hawliad o dan adran 63 F5neu 63A mewn cysylltiad â’r swm hwnnw, mae cyfeiriadau at dreth ddatganoledig yn adrannau 68, 73 a 77 yn cynnwys y swm a dalwyd o dan y setliad contract.
5
Pan fo’r seiliau dros roi effaith i hawliad gan y talwr mewn cysylltiad â’r swm hefyd yn rhoi seiliau ar gyfer asesiad ACC o’r trethdalwr mewn cysylltiad â’r dreth ddatganoledig—
a
caiff ACC osod unrhyw swm sydd i’w ad-dalu i’r talwr o ganlyniad i’r hawliad yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy gan y trethdalwr o ganlyniad i’r asesiad, a
b
mae rhwymedigaethau ACC a’r trethdalwr wedi eu cyflawni i raddau’r gwrthgyfrif.