RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 1RHAGARWEINIOL
Dehongli
I1I683Hysbysiadau gwybodaeth
1
Yn y Ddeddf hon, ystyr “hysbysiad gwybodaeth” yw—
a
hysbysiad trethdalwr o dan adran 86,
b
hysbysiad trydydd parti o dan adran 87,
c
hysbysiad trydydd parti anhysbys o dan adran 89,
d
hysbysiad adnabod o dan adran 92, neu
e
hysbysiad cyswllt dyledwr o dan adran 93.
2
Caiff hysbysiad gwybodaeth naill ai bennu neu ddisgrifio’r wybodaeth neu’r dogfennau sydd i’w darparu neu eu cyflwyno.
3
Os dyroddir hysbysiad gwybodaeth gyda chymeradwyaeth y tribiwnlys, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny.
I5I284Ystyr “sefyllfa dreth”
1
Yn y Rhan hon, ystyr “sefyllfa dreth”, mewn perthynas â pherson, yw sefyllfa’r person o ran unrhyw dreth ddatganoledig, gan gynnwys sefyllfa’r person o ran—
a
rhwymedigaeth yn y gorffennol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, i dalu unrhyw dreth ddatganoledig,
b
c
hawliadau neu hysbysiadau a wnaed neu a roddwyd, neu y gellir eu gwneud neu eu rhoi, mewn cysylltiad â rhwymedigaeth y person i dalu unrhyw dreth ddatganoledig F3neu unrhyw swm mewn cysylltiad â chredyd treth,
ac mae cyfeiriadau at sefyllfa person o ran treth ddatganoledig benodol (sut bynnag y’u mynegir) i’w dehongli yn unol â hynny.
2
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at sefyllfa dreth person yn cynnwys cyfeiriadau at sefyllfa dreth—
a
unigolyn sydd wedi marw, a
b
corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig sydd wedi peidio â bod.
3
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at sefyllfa dreth person yn cyfeirio at sefyllfa dreth y person unrhyw bryd neu o ran unrhyw gyfnod, oni nodir i’r gwrthwyneb.
4
Mae cyfeiriadau at wirio sefyllfa dreth person yn cynnwys cyfeiriadau at gynnal ymchwiliad neu at wneud ymholiad o unrhyw fath.
84AF4Ystyr “niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig”
Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn cynnwys niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu unrhyw swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.
I3I485Ystyr “rhedeg busnes”
1
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at redeg busnes yn cynnwys—
a
cyflawni unrhyw weithgaredd at ddibenion creu incwm o dir (ble bynnag y’i lleolir),
b
dilyn proffesiwn,
c
gweithgareddau elusen, a
d
gweithgareddau awdurdod lleol neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall.
2
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod—
a
cyflawni gweithgaredd penodedig, neu
b
cyflawni unrhyw weithgaredd, neu weithgaredd penodedig, gan berson penodedig,
i’w drin fel pe bai’n gyfystyr â rhedeg busnes, neu nad yw i’w drin felly, at ddibenion y Rhan hon.
3
Yn y Ddeddf hon, mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010 (p. 13).