RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 1RHAGARWEINIOL
Trosolwg
82Trosolwg o’r Rhan
Mae’r Rhan hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
a
mae Pennod 2 yn nodi pwerau ymchwilio ACC mewn perthynas â gwybodaeth a dogfennau,
b
mae Pennod 3 yn nodi cyfyngiadau ar y pwerau sydd ym Mhennod 2,
c
mae Pennod 4 yn nodi pwerau ymchwilio ACC mewn perthynas â mangreoedd ac eiddo arall,
d
mae Pennod 5 yn nodi pwerau ymchwilio pellach,
e
mae Pennod 6 yn nodi troseddau mewn perthynas â hysbysiadau gwybodaeth, ac
f
mae Pennod 7 yn ymwneud ag adolygiadau ac apelau yn erbyn cymeradwyaeth benodol gan y tribiwnlys i hysbysiadau gwybodaeth ac archwiliadau.
Dehongli
83Hysbysiadau gwybodaeth
1
Yn y Ddeddf hon, ystyr “hysbysiad gwybodaeth” yw—
a
hysbysiad trethdalwr o dan adran 86,
b
hysbysiad trydydd parti o dan adran 87,
c
hysbysiad trydydd parti anhysbys o dan adran 89,
d
hysbysiad adnabod o dan adran 92, neu
e
hysbysiad cyswllt dyledwr o dan adran 93.
2
Caiff hysbysiad gwybodaeth naill ai bennu neu ddisgrifio’r wybodaeth neu’r dogfennau sydd i’w darparu neu eu cyflwyno.
3
Os dyroddir hysbysiad gwybodaeth gyda chymeradwyaeth y tribiwnlys, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny.
84Ystyr “sefyllfa dreth”
1
Yn y Rhan hon, ystyr “sefyllfa dreth”, mewn perthynas â pherson, yw sefyllfa’r person o ran unrhyw dreth ddatganoledig, gan gynnwys sefyllfa’r person o ran—
a
rhwymedigaeth yn y gorffennol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, i dalu unrhyw dreth ddatganoledig,
b
cosbau, llog (gan gynnwys llog ar gosbau) a symiau eraill a dalwyd, neu sy’n daladwy neu a all fod yn daladwy, gan y person neu i’r person mewn cysylltiad ag unrhyw dreth ddatganoledig, ac
c
hawliadau neu hysbysiadau a wnaed neu a roddwyd, neu y gellir eu gwneud neu eu rhoi, mewn cysylltiad â rhwymedigaeth y person i dalu unrhyw dreth ddatganoledig,
ac mae cyfeiriadau at sefyllfa person o ran treth ddatganoledig benodol (sut bynnag y’u mynegir) i’w dehongli yn unol â hynny.
2
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at sefyllfa dreth person yn cynnwys cyfeiriadau at sefyllfa dreth—
a
unigolyn sydd wedi marw, a
b
corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig sydd wedi peidio â bod.
3
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at sefyllfa dreth person yn cyfeirio at sefyllfa dreth y person unrhyw bryd neu o ran unrhyw gyfnod, oni nodir i’r gwrthwyneb.
4
Mae cyfeiriadau at wirio sefyllfa dreth person yn cynnwys cyfeiriadau at gynnal ymchwiliad neu at wneud ymholiad o unrhyw fath.
85Ystyr “rhedeg busnes”
1
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at redeg busnes yn cynnwys—
a
cyflawni unrhyw weithgaredd at ddibenion creu incwm o dir (ble bynnag y’i lleolir),
b
dilyn proffesiwn,
c
gweithgareddau elusen, a
d
gweithgareddau awdurdod lleol neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall.
2
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod—
a
cyflawni gweithgaredd penodedig, neu
b
cyflawni unrhyw weithgaredd, neu weithgaredd penodedig, gan berson penodedig,
i’w drin fel pe bai’n gyfystyr â rhedeg busnes, neu nad yw i’w drin felly, at ddibenion y Rhan hon.
3
Yn y Ddeddf hon, mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010 (p. 13).