RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 2PWERAU I WNEUD GWYBODAETH A DOGFENNAU YN OFYNNOL
I186Hysbysiadau trethdalwr
1
Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trethdalwr”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y trethdalwr”) ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—
a
os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth y trethdalwr,
b
os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, ac
c
os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen.
2
Ond ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad trethdalwr heb gymeradwyaeth y tribiwnlys.
I287Hysbysiadau trydydd parti
1
Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trydydd parti”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—
a
os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth person arall (“y trethdalwr”) y gŵyr ACC pwy ydyw,
b
os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, ac
c
os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen.
2
Ond ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad trydydd parti heb—
a
cytundeb y trethdalwr, neu
b
cymeradwyaeth y tribiwnlys.
3
O ran y trethdalwr y mae hysbysiad trydydd parti yn ymwneud ag ef—
a
rhaid iddo gael ei enwi yn yr hysbysiad, a
b
rhaid i ACC ddyroddi copi o’r hysbysiad iddo.
4
Ond pan fo’n cymeradwyo hysbysiad trydydd parti, caiff y tribiwnlys ddatgymhwyso un o ofynion is-adran (3), neu’r ddau ohonynt, os yw’n fodlon bod gan ACC sail dros gredu y gallai enwi’r trethdalwr neu, yn ôl y digwydd, ddyroddi copi o’r hysbysiad i’r trethdalwr, niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.
I388Cymeradwyaeth y tribiwnlys i hysbysiadau trethdalwr a hysbysiadau trydydd parti
1
Caiff ACC wneud cais i’r tribiwnlys am gymeradwyaeth i ddyroddi hysbysiad trethdalwr neu hysbysiad trydydd parti i berson (“y derbynnydd”) heb i hysbysiad am y cais gael ei anfon at y derbynnydd.
2
Os nad anfonir hysbysiad am y cais am gymeradwyaeth at y derbynnydd, ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad trethdalwr neu’r hysbysiad trydydd parti oni fo’n fodlon—
a
bod—
i
yn achos hysbysiad trethdalwr, gofynion adran 86(1), neu
ii
yn achos hysbysiad trydydd parti, gofynion adran 87(1),
wedi eu bodloni, a
b
y gallai anfon hysbysiad am y cais am gymeradwyaeth at y derbynnydd fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.
3
Os hysbyswyd y derbynnydd am y cais am gymeradwyaeth, ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad trethdalwr neu’r hysbysiad trydydd parti oni fo’r amodau canlynol wedi eu bodloni—
a
bod y tribiwnlys yn fodlon bod—
i
yn achos hysbysiad trethdalwr, gofynion adran 86(1), neu
ii
yn achos hysbysiad trydydd parti, gofynion adran 87(1),
wedi eu bodloni,
b
bod y derbynnydd wedi cael gwybod bod yr wybodaeth neu’r dogfennau y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad trethdalwr neu’r hysbysiad trydydd parti yn ofynnol ac wedi cael cyfle rhesymol i wneud sylwadau i ACC,
c
bod crynodeb o unrhyw sylwadau a wnaed wedi eu darparu i’r tribiwnlys, a
d
yn achos hysbysiad trydydd parti, bod crynodeb o’r rhesymau pam fod yr wybodaeth neu’r dogfennau yn ofynnol gan ACC wedi ei ddarparu i’r trethdalwr.
4
Ond caiff y tribiwnlys ddatgymhwyso gofynion paragraff (b) neu (d) o is-adran (3) i’r graddau y mae’n fodlon y gallai cymryd y camau a bennir yn y paragraff niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.
5
Wrth gymeradwyo dyroddi hysbysiad trethdalwr neu hysbysiad trydydd parti, caiff y tribiwnlys wneud unrhyw addasiadau i’r hysbysiad ag y bo’n briodol yn ei farn.
I489Pŵer i wneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol am bersonau na wyddys pwy ydynt
1
Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trydydd parti anhysbys”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y derbynnydd”) ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—
a
os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth—
i
person na ŵyr ACC pwy ydyw, neu
ii
dosbarth o bersonau na ŵyr ACC pwy ydynt fel unigolion,
b
os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen,
c
os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, a
d
os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi’r hysbysiad.
2
Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth heb hysbysiad.
3
Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad trydydd parti anhysbys oni fo’n fodlon—
a
bod gofynion is-adran (1)(a) i (c) wedi eu bodloni,
b
nad yw’r wybodaeth neu’r ddogfen y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi ar gael yn rhwydd i ACC o ffynhonnell arall,
c
bod sail dros gredu y gallai’r person y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu unrhyw ddosbarth o bersonau y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef fod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r gyfraith yn ymwneud â threth ddatganoledig, neu y gallent fethu â chydymffurfio â hi neu â hwy, a
d
ei bod yn debygol bod unrhyw fethiant o’r fath wedi arwain, neu y gallai arwain, at niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.
4
Wrth gymeradwyo dyroddi hysbysiad trydydd parti anhysbys, caiff y tribiwnlys wneud unrhyw addasiadau i’r hysbysiad ag y bo’n briodol yn ei farn.
I590Gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol mewn perthynas â grŵp o ymgymeriadau
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ymgymeriad yn rhiant-ymgymeriad mewn perthynas ag ymgymeriad arall (“is-ymgymeriad”).
2
Pan ddyroddir hysbysiad trydydd parti i unrhyw berson at ddiben gwirio sefyllfa dreth rhiant-ymgymeriad ac unrhyw un neu ragor o’i is-ymgymeriadau—
a
mae’r cyfeiriadau at y trethdalwr yn adrannau 87(2)(a), (3) a (4) ac 88(3)(d) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y rhiant-ymgymeriad, a
b
mae adran 87(3) i’w thrin fel pe bai hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad ddatgan ei ddiben.
3
Pan ddyroddir hysbysiad trydydd parti i riant-ymgymeriad at ddiben gwirio sefyllfa dreth mwy nag un is-ymgymeriad—
a
rhaid i’r hysbysiad ddatgan ei ddiben,
b
nid yw adrannau 87(2)(a) a (3) ac 88(3)(d) yn gymwys, ac
c
mae adran 100 (hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen dreth) yn gymwys fel pe bai’r hysbysiad trydydd parti yn hysbysiad trethdalwr a ddyroddir i bob is-ymgymeriad (neu, os yw’r hysbysiad trydydd parti yn enwi’r is-ymgymeriadau y mae’n ymwneud â hwy, i bob un o’r is-ymgymeriadau hynny).
4
Yn yr adran hon, mae i “rhiant-ymgymeriad”, “is-ymgymeriad” ac “ymgymeriad” yr ystyron a roddir i “parent undertaking”, “subsidiary undertaking” ac “undertaking” yn adran 1162 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46) ac Atodlen 7 iddi.
I691Gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ymwneud â phartneriaeth yn ofynnol
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo busnes yn cael ei redeg gan ddau neu ragor o bersonau mewn partneriaeth.
2
Pan ddyroddir hysbysiad trydydd parti i rywun heblaw un o’r partneriaid at ddiben gwirio sefyllfa dreth mwy nag un o’r partneriaid (yn y rhinwedd honno)—
a
mae adran 87(3) i’w thrin fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i ACC—
i
datgan y diben hwnnw,
ii
enwi’r trethdalwr drwy roi enw yr adwaenir y bartneriaeth wrtho neu y mae wedi ei gofrestru oddi tano at unrhyw ddiben, a
iii
dyroddi copi o’r hysbysiad i un o’r partneriaid o leiaf,
b
mae adran 87(4) i’w thrin fel pe bai’n caniatáu i’r tribiwnlys ddatgymhwyso unrhyw un neu bob un o’r gofynion a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran hon, ac
c
mae’r cyfeiriadau at y trethdalwr yn adrannau 87(2)(a) ac 88(3)(d) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at un o’r partneriaid o leiaf.
I792Pŵer i gael gwybodaeth er mwyn gallu cadarnhau pwy yw person
1
Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad adnabod”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth berthnasol am berson arall (“y trethdalwr”) oni fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi’r hysbysiad.
2
Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth heb hysbysiad.
3
Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad adnabod oni fo’n fodlon bod amodau 1 i 6 wedi eu bodloni.
4
Amod 1 yw bod angen yr wybodaeth ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth y trethdalwr.
5
Amod 2 yw ei bod yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth berthnasol.
6
Amod 3 yw—
a
nad yw ACC yn gwybod pwy yw’r trethdalwr, ond
b
bod gan ACC wybodaeth y gellir canfod pwy yw’r trethdalwr ohoni.
7
Amod 4 yw bod gan ACC sail dros gredu—
a
y bydd y person yn gallu canfod pwy yw’r trethdalwr o’r wybodaeth sydd gan ACC, a
b
bod y person wedi cael gwybodaeth berthnasol am y trethdalwr yng nghwrs rhedeg busnes.
8
Amod 5 yw na ellir canfod yn rhwydd pwy yw’r trethdalwr o’r wybodaeth sydd gan ACC drwy ddulliau eraill.
9
Amod 6 yw nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth berthnasol.
10
Yn yr adran hon, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw pob un neu unrhyw un o’r canlynol—
a
enw,
b
cyfeiriad hysbys olaf, ac
c
dyddiad geni (yn achos unigolyn).
11
Mae’r adran hon hefyd yn gymwys at ddiben gwirio sefyllfa dreth dosbarth o bersonau (ac mae cyfeiriadau at y trethdalwr i’w darllen yn unol â hynny).
I893Pŵer i gael manylion cyswllt dyledwyr
1
Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cyswllt dyledwr”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y trydydd parti”) ddarparu manylion cyswllt person arall (“y dyledwr”) oni fo amodau 1 i 5 wedi eu bodloni.
2
Amod 1 yw bod swm ar ffurf—
a
treth ddatganoledig,
b
llog ar dreth ddatganoledig,
c
cosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, neu
d
llog ar gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig,
yn daladwy gan y dyledwr i ACC o dan ddeddfiad neu setliad contract.
3
Amod 2 yw bod angen manylion cyswllt y dyledwr ar ACC at ddiben casglu’r swm hwnnw.
4
Amod 3 yw ei bod yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r trydydd parti ddarparu’r manylion.
5
Amod 4 yw—
a
bod y trydydd parti yn gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig, neu
b
bod gan ACC sail dros gredu bod y trydydd parti wedi cael y manylion yng nghwrs rhedeg busnes.
6
Amod 5 yw nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r trydydd parti ddarparu’r manylion.
7
Ond ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad cyswllt dyledwr—
a
os yw’r trydydd parti yn elusen ac y daeth y manylion i’w law yng nghwrs darparu gwasanaethau di-dâl, neu
b
os nad yw’r trydydd parti yn elusen ond y daeth y manylion i’w law yng nghwrs darparu gwasanaethau ar ran elusen sy’n ddi-dâl i’r sawl sy’n derbyn y gwasanaeth.
8
Yn yr adran hon, ystyr “manylion cyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw cyfeiriad y person ac unrhyw wybodaeth arall ynghylch sut y gellir cysylltu â’r person.
I994Terfyn amser ar gyfer dyroddi hysbysiad gwybodaeth a gymeradwywyd gan dribiwnlys
Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi hysbysiad gwybodaeth rhaid i ACC ddyroddi’r hysbysiad—
a
yn ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y diwrnod y rhoddwyd cymeradwyaeth y tribiwnlys, neu
b
o fewn unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y tribiwnlys wrth roi’r gymeradwyaeth.
I1095Cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth
1
Rhaid i berson y dyroddir hysbysiad gwybodaeth iddo gydymffurfio â’r hysbysiad—
a
o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a
b
mewn unrhyw fodd a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad.
2
Ond os yw’r person wedi gofyn am adolygu’r hysbysiad neu ofyniad ynddo, neu wedi apelio yn erbyn y naill neu’r llall, mae is-adran (1)(a) yn peidio â bod yn gymwys i’r hysbysiad neu’r gofyniad.
3
Pan fo hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen, rhaid ei chyflwyno—
a
mewn lle y mae’r person ac ACC yn cytuno arno, neu
b
mewn lle a bennir gan ACC.
4
Ni chaiff ACC bennu lle a ddefnyddir fel annedd yn unig at ddiben is-adran (3)(b).
5
Nid yw cyflwyno dogfen yn unol â hysbysiad gwybodaeth i’w ystyried fel torri unrhyw hawlrwym a hawlir ar y ddogfen.
I1196Cyflwyno copïau o ddogfennau
1
Oni bai bod hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen wreiddiol, caiff y person gydymffurfio â’r hysbysiad drwy gyflwyno copi o’r ddogfen.
2
Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
3
Pan fo person yn cydymffurfio â hysbysiad drwy gyflwyno copi o’r ddogfen, caiff ACC, wedi hynny, ei gwneud yn ofynnol i’r person gyflwyno’r ddogfen wreiddiol—
a
o fewn unrhyw gyfnod, a
b
mewn unrhyw fodd,
a bennir gan ACC.
4
Ond nid yw’n ofynnol i berson gyflwyno’r ddogfen wreiddiol os yw ACC yn gwneud cais dros 6 mis ar ôl y diwrnod y cyflwynwyd y copi o’r ddogfen.