RHAN 5COSBAU
PENNOD 1TROSOLWG
I1117Trosolwg o’r Rhan
1
Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth am gosbau sy’n ymwneud â threthi datganoledig, gan gynnwys—
a
cosbau sy’n ymwneud â methiannau i ddychwelyd ffurflenni treth neu i dalu trethi datganoledig,
b
cosbau sy’n ymwneud ag anghywirdebau,
c
cosbau sy’n ymwneud â chadw cofnodion a threfniadau talu’n ôl, a
d
cosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau.
2
Mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—
a
yr amgylchiadau pan gyfyd rhwymedigaeth i’r cosbau hynny,
b
symiau’r cosbau hynny,
c
yr amgylchiadau pan ganiateir gohirio rhwymedigaeth i’r cosbau hynny neu ostwng symiau’r cosbau hynny,
d
asesu’r cosbau hynny, ac
e
talu’r cosbau hynny.
PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH F47NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH
Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth
I2I45118Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny
F61
Mae person F8y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth yn agored i gosb o £100 os yw’r person yn methu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny.
F522
Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.
118AF4Cosbau am fethiannau lluosog i ddychwelyd ffurflenni treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi
1
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd o dan adran 39 o DTGT, mae cyfnod cosbi—
a
yn dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, a
b
yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).
2
Os yw’n ofynnol i’r person ddychwelyd ffurflen dreth arall o dan adran 39 o DTGT (“ffurflen dreth B”) cyn diwedd y cyfnod cosbi ond bod y person yn methu â gwneud hynny ar ddyddiad ffeilio ffurflen dreth B neu cyn hynny—
a
nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a
b
caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad ffeilio ffurflen dreth B.
3
Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at nifer y ffurflenni treth—
a
yr oedd yn ofynnol i’r person eu dychwelyd o dan adran 39 o DTGT yn ystod y cyfnod cosbi, ond
b
y mae’r person wedi methu â’u dychwelyd ar ddyddiadau ffeilio’r ffurflenni treth hynny neu cyn hynny.
4
Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £200 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
5
Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £300 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
6
Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £400 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
7
Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)(b).
I3I60119Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 6 mis wedi’r dyddiad ffeilio
1
Mae person F23y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.
2
Y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol—
a
5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a
b
£300.
I4I63120Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 12 mis wedi’r dyddiad ffeilio
1
Mae person F53y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.
2
Pan fo’r person, drwy fethu â dychwelyd y ffurflen dreth, yn atal yn fwriadol wybodaeth a fyddai’n galluogi neu’n cynorthwyo ACC i asesu rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, y gosb F3yw—
a
£300, neu
b
swm uwch, heb fod yn fwy na 95% o’r swm o dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.
3
Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn is-adran (2), y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol—
a
5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a
b
£300.
I5I61121Gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgelu
1
Caiff ACC ostwng cosb o dan adran 118, F34118A, 119 neu 120 os yw’r person yn datgelu gwybodaeth sydd wedi ei hatal o ganlyniad i fethiant i ddychwelyd ffurflen dreth (“gwybodaeth berthnasol”).
2
Mae person yn datgelu gwybodaeth berthnasol drwy—
a
dweud wrth ACC amdani,
b
rhoi cymorth rhesymol i ACC feintioli unrhyw dreth ddatganoledig nas talwyd oherwydd i’r wybodaeth gael ei hatal, ac
c
caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben gwirio faint o dreth ddatganoledig nas talwyd fel hyn.
3
Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—
a
pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a
b
ansawdd y datgeliad.
4
Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—
a
yn “ddigymell” os gwneir hynny ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod yr wybodaeth berthnasol neu ei fod ar fin ei darganfod, a
b
fel arall, “wedi ei gymell”.
5
Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.
Cosb am fethu â thalu treth
I6I43F18122F18Cosb am fethu â thalu treth mewn pryd
1
Mae person yn agored i gosb os yw’r person wedi methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny mewn cysylltiad â’r swm hwnnw.
F152
Y gosb—
a
mewn cysylltiad â swm o dreth trafodiadau tir, yw 5% o swm y dreth nas talwyd;
b
mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, yw 1% o swm y dreth nas talwyd.
F122A
Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).
3
Yn yr adran hon ac yn F48adrannau 122ZA a 122A, y dyddiad cosbi mewn cysylltiad â swm o dreth ddatganoledig a bennir yng ngholofn 3 o Dabl A1 yw’r dyddiad a bennir yng ngholofn 4.
Eitem | Y dreth ddatganoledig | Swm y dreth | Y dyddiad cosbi |
---|---|---|---|
1 | Treth trafodiadau tir | Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth a ddychwelir gan y prynwr mewn trafodiad tir (oni bai bod y swm o fewn eitem 8 neu 9). | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth. |
2 | Treth gwarediadau tirlenwi | Swm F31sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth. |
3 | Unrhyw dreth ddatganoledig | Swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth. |
4 | Unrhyw dreth ddatganoledig | Swm sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth (oni bai bod y swm o fewn eitem 7). | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth. |
5 | Unrhyw dreth ddatganoledig | Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol). |
6 | Unrhyw dreth ddatganoledig | Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol). |
7 | Unrhyw dreth ddatganoledig | Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir at ddibenion gwneud addasiad i wrthweithio mantais drethiannol (gweler Rhan 3A) mewn achos pan na fo ffurflen dreth y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn ofynnol ei dychwelyd wedi ei dychwelyd mewn gwirionedd. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol). |
8 | Treth trafodiadau tir | Pan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm gohiriedig y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd adran 61(1) o’r Ddeddf honno. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig. |
9 | Treth trafodiadau tir | Pan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm a wrthodir o fewn ystyr adran 61(2)(a) o’r Ddeddf honno. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir. |
10 | Treth gwarediadau tirlenwi | Swm a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 48 neu 49 o DTGT. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm. |
11 | Unrhyw dreth ddatganoledig | Swm gohiriedig o fewn ystyr adran 181G(2). | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae’r cyfnod gohirio yn dod i ben (gweler adran 181G ynglŷn â chyfrifo cyfnodau gohirio). |
4
Yn yr adran hon, mae i “swm gohiriedig” yr un ystyr ag yn adran 58(6)(a) DTTT.
5
Caiff Gweinidogion Cymru addasu Tabl A1 drwy reoliadau.
122ZAF44Cosb am fethiannau lluosog i dalu treth gwarediadau tirlenwi mewn pryd
1
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methiant i dalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny, mae cyfnod cosbi—
a
yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, a
b
yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).
2
Os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod cosbi, yn methu â thalu swm arall o dreth gwarediadau tirlenwi (“swm B”) ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny—
a
nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122(1) mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a
b
caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer swm B.
3
Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at—
a
swm B, a
b
sawl tro yn ystod y cyfnod cosbi y mae person wedi methu â thalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny.
4
Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 2% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
5
Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 3% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
6
Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 4% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
7
Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)(b).
122AF18Cosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn agored i gosb o dan adran 122 F7neu 122ZA mewn cysylltiad â methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.
2
Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i gosb bellach.
3
Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.
4
Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i ail gosb bellach.
5
Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.
F45123Gohirio cosb am fethu â thalu treth pan fo cytundeb cyfredol i ohirio taliad
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth
123ACosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth mewn pryd
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson dalu swm o ganlyniad i asesiad ACC a wneir o dan adran 55A.
2
Mae person yn agored i gosb os yw’n yn methu â thalu’r swm ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny.
3
Y dyddiad cosbi yw’r dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.
4
Y gosb yw 5% o’r swm sy’n daladwy o ganlyniad i’r asesiad ACC.
Cosbau o dan Bennod 2: cyffredinol
F36124Cydarwaith cosbau
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I7I47C2125Gostyngiad arbennig i’r gosb o dan Bennod 2
1
Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.
2
Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—
a
y gallu i dalu, na
b
y ffaith fod y posibilrwydd o golli refeniw gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.
F202A
Ond gall “amgylchiadau arbennig” gynnwys y ffaith fod ACC wedi cytuno y caiff person dalu swm o dreth ddatganoledig mewn rhandaliadau dros gyfnod cytunedig.
3
Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—
a
dileu cosb yn llwyr,
b
gohirio cosb, ac
c
cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.
4
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at gosb yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw log mewn perthynas â chosb.
I8I49C2126Esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth F2neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth
1
Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adrannau 118 i 120 mewn perthynas â’r methiant.
2
Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â thalu treth ddatganoledig, nid yw’r person yn agored i gosb o dan F27adrannau 122 i 122A mewn perthynas â’r methiant.
F502A
Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol dros fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 123A mewn perthynas â’r methiant.
3
At ddibenion is-adrannau (1) F33, (2) a (2A)—
a
nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;
b
pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;
c
os oedd gan berson esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.
I9I64C2127Asesu cosbau o dan Bennod 2
1
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—
a
asesu’r gosb,
b
dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac
c
datgan yn yr hysbysiad y cyfnod F22, y trafodiad neu’r swm yr aseswyd y gosb mewn perthynas ag ef.
2
Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad ar gyfer treth ddatganoledig.
3
Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth.
4
Os yw—
a
asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 yn seiliedig ar swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth, a
b
ACC yn darganfod bod y rhwymedigaeth honno yn ormodol,
caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.
5
6
F386A
Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r credyd treth o dan sylw.
6B
Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A yn seiliedig ar swm y darganfyddir ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.
7
O ran diwygiad a wneir o dan is-adran (4) F37, (6) neu (6B)—
a
nid yw’n effeithio ar ba bryd y mae’n rhaid talu’r gosb, a
b
caniateir ei wneud ar ôl y diwrnod olaf y gellid bod wedi gwneud yr asesiad o dan sylw o dan adran 128.
I10I46C2128Terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2
1
Rhaid asesu cosb o dan y Bennod hon F24... ar neu cyn y diweddaraf o ddyddiad A a (pan fo’n gymwys) dyddiad B.
2
Dyddiad A yw diwrnod olaf y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau—
a
yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth, â’r dyddiad ffeilio, F56...
b
yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig, â’r dyddiad cosbi F55, neu
c
yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, â’r dyddiad cosbi.
3
Dyddiad B yw diwrnod olaf y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
a
yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth—
i
â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, neu
ii
os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y caiff y rhwymedigaeth honno ei chanfod neu’r dyddiad y canfyddir mai dim yw’r rhwymedigaeth;
b
yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig—
i
â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef, neu
ii
os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y canfyddir y swm hwnnw o dreth ddatganoledig.
F14c
yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o’r swm yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef.
4
Yn is-adran (2)(b), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran F13122(3).
F434A
Yn is-adran (2)(c), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 123A(3).
5
a
os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a
b
os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.
PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU
Cosbau am anghywirdebau mewn dogfennau
I11I57129Cosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACC
1
Mae person yn agored i gosb pan fo—
a
y person yn rhoi dogfen i ACC, a
b
amodau 1 a 2 wedi eu bodloni.
2
Amod 1 yw bod y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb sy’n gyfystyr â’r canlynol, neu’n arwain at y canlynol—
a
tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,
b
datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F59...
c
hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig F10, neu
d
hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.
3
Amod 2 yw bod yr anghywirdeb yn fwriadol neu’n ddiofal ar ran y person.
4
Mae anghywirdeb yn ddiofal ar ran person os gellir ei briodoli i fethiant y person i gymryd gofal rhesymol.
5
Mae anghywirdeb nad oedd yn fwriadol nac yn ddiofal ar ran person pan roddwyd y ddogfen i’w drin fel un diofal—
a
os darganfu’r person yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a
b
os na chymerodd y person gamau rhesymol i roi gwybod i ACC.
6
Pan fo dogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amodau 1 a 2 mewn cysylltiad â hwy, mae’r person yn agored i gosb am bob anghywirdeb o’r fath.
I12I51130Swm y gosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACC
1
Y gosb am anghywirdeb bwriadol yw F49swm heb fod yn fwy na 100% o’r refeniw posibl a gollir.
2
Y gosb am anghywirdeb diofal yw F39swm heb fod yn fwy na 30% o’r refeniw posibl a gollir.
I13I41131Gohirio cosb am anghywirdeb diofal
1
Caiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb am anghywirdeb diofal o dan adran 129 drwy ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb.
2
Rhaid i’r hysbysiad bennu—
a
pa ran o’r gosb sydd i’w gohirio,
b
cyfnod gohirio nad yw’n hwy na 2 flynedd, ac
c
amodau gohirio y mae’n rhaid i’r person gydymffurfio â hwy.
3
Ni chaiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb oni fyddai cydymffurfio ag amod gohirio yn helpu’r person i osgoi dod yn agored i gosbau pellach o dan adran 129 am anghywirdeb diofal.
4
Caiff amod gohirio bennu—
a
cam sydd i’w gymryd, a
b
cyfnod ar gyfer cymryd y cam hwnnw.
5
Pan ddaw’r cyfnod gohirio i ben—
a
os yw’r person yn bodloni ACC y cydymffurfiwyd â’r amodau gohirio, caiff y gosb neu’r rhan a ohiriwyd ei chanslo, a
b
fel arall, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.
6
Os yw’r person, yn ystod cyfnod gohirio cosb gyfan neu ran o gosb sy’n daladwy o dan adran 129, yn dod yn agored i gosb arall o dan yr adran honno, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.
I14I44132Cosb am anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC gan berson arall
1
Mae person (y cyfeirir ato yn yr adran hon fel “person A”) yn agored i gosb pan fo—
a
person arall yn rhoi dogfen i ACC,
b
y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb perthnasol, ac
c
yr anghywirdeb i’w briodoli—
i
i berson A yn darparu gwybodaeth ffug i’r person arall yn fwriadol (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), neu
ii
i berson A yn atal gwybodaeth yn fwriadol rhag y person arall,
gyda’r bwriad bod y ddogfen yn cynnwys yr anghywirdeb.
2
Mae “anghywirdeb perthnasol” yn anghywirdeb sy’n gyfystyr ag, neu’n arwain at—
a
tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,
b
datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F21...
c
hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig F42, neu
d
hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.
3
Mae person A yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag anghywirdeb pa un a yw’r person arall yn agored i gosb ai peidio o dan adran 129 mewn perthynas â’r un anghywirdeb.
4
Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw F58 100% o’r refeniw posibl a gollir.
Cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad etc.
I15I65133Cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad neu danddyfarniad
1
Mae person yn agored i gosb pan fo—
a
asesiad ACC yn tanddatgan rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, a
b
y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.
F461A
Mae person hefyd yn agored i gosb pan fo—
a
asesiad ACC o dan adran 55A yn tanddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person ei dalu i ACC, a
b
y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.
2
Wrth benderfynu pa gamau (os o gwbl) a oedd yn rhesymol, rhaid i ACC ystyried pa un a wyddai’r person am y tanasesiad, neu a ddylai fod wedi gwybod amdano.
3
Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw F60swm heb fod yn fwy na 30% o’r refeniw posibl a gollir.
4
Yn yr adran hon—
a
mae “asesiad ACC” yn cynnwys dyfarniad a wnaed gan ACC o dan adran 52, a
b
yn unol â hynny, mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at danasesiad yn cynnwys cyfeiriadau at danddyfarniad.
Refeniw posibl a gollir
I16I39134Ystyr “refeniw posibl a gollir”
Yn y Bennod hon, mae i “refeniw posibl a gollir” yr ystyr a roddir gan adrannau 135 i 138.
I17I53135Refeniw posibl a gollir: y rheol arferol
1
Y “refeniw posibl a gollir” mewn cysylltiad ag—
a
anghywirdeb mewn dogfen (gan gynnwys anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth), neu
b
methiant i hysbysu ynghylch tanasesiad,
yw’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad â threth ddatganoledig F5neu gredyd treth o ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb neu’r tanasesiad.
2
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y swm ychwanegol sy’n daladwy yn cynnwys cyfeiriad at—
a
swm sy’n daladwy i ACC wedi iddo gael ei dalu drwy gamgymeriad ar ffurf ad-daliad o dreth ddatganoledig, F26...
b
swm a fyddai wedi bod i’w ad-dalu gan ACC pe na byddai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro, F25ac
c
swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.
I18I48136Refeniw posibl a gollir: camgymeriadau lluosog
1
Pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad â mwy nag un anghywirdeb, a bod y cyfrifiad o’r refeniw posibl a gollir o dan adran 135 mewn cysylltiad â phob anghywirdeb yn dibynnu ar y drefn y cânt eu cywiro, dylid cymryd bod anghywirdebau diofal yn cael eu cywiro cyn anghywirdebau bwriadol.
2
Wrth gyfrifo refeniw posibl a gollir pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad ag un neu ragor o danddatganiadau mewn un neu ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â chyfnod treth F32, trafodiad neu hawliad am gredyd treth, rhaid rhoi ystyriaeth i unrhyw orddatganiadau mewn unrhyw ddogfen a roddwyd gan y person sy’n ymwneud â’r un cyfnod treth F54, trafodiad neu hawliad am gredyd treth.
3
Yn is-adran (2)—
a
ystyr “tanddatganiad” yw anghywirdeb sy’n bodloni amod 1 yn adran 129, a
b
ystyr “gorddatganiad” yw anghywirdeb nad yw’n bodloni’r amod hwnnw.
4
At ddibenion is-adran (2), mae gorddatganiadau i’w gosod yn erbyn tanddatganiadau yn y drefn a ganlyn—
a
tanddatganiadau nad yw’r person yn agored i gosb mewn cysylltiad â hwy,
b
tanddatganiadau diofal, ac
c
tanddatganiadau bwriadol.
5
Wrth gyfrifo, at ddibenion cosb o dan adran 129, refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â dogfen a roddwyd gan berson neu ar ran person, ni ddylid ystyried y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan berson i’w wrthbwyso, neu y caniateir ei wrthbwyso, gan ordaliad posibl gan berson arall (ac eithrio i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol bod rhwymedigaeth person i dreth ddatganoledig yn cael ei haddasu drwy gyfeirio at rwymedigaeth person arall i dreth ddatganoledig).
I19I42137Refeniw posibl a gollir: colledion
1
Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig a bod y golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, cyfrifir y refeniw posibl a gollir yn unol ag adran 135.
2
Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig ac nad yw’r golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, y refeniw posibl a gollir yw—
a
y refeniw posibl a gollir wedi ei gyfrifo yn unol ag adran 135 mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r golled a ddefnyddiwyd i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, ynghyd â
b
10% o unrhyw ran nas defnyddiwyd.
3
Mae is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i’r canlynol fel ei gilydd—
a
achos pan na fyddai unrhyw golled wedi ei chofnodi oni bai am yr anghywirdeb, a
b
achos pan fyddai swm gwahanol o golled wedi ei gofnodi (ond yn yr achos hwnnw nid yw is-adrannau (1) a (2) ond yn gymwys i’r gwahaniaeth rhwng y swm a gofnodwyd a’r gwir swm).
4
Mae’r refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â cholled yn ddim pan na fo unrhyw obaith rhesymol, oherwydd natur y golled neu amgylchiadau’r person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno, y defnyddir y golled i gefnogi hawliad i ostwng rhwymedigaeth unrhyw berson i’r dreth honno.
I20I55138Refeniw posibl a gollir: treth oediedig
1
Pan fo anghywirdeb wedi arwain at ddatgan swm o dreth ddatganoledig yn hwyrach nag y dylid (“y dreth oediedig”), y refeniw posibl a gollir yw—
a
5% o’r dreth oediedig am bob blwyddyn o’r oedi;
b
canran o’r dreth oediedig, ar gyfer pob cyfnod oedi o lai na blwyddyn, sy’n cyfateb i 5% y flwyddyn.
2
Nid yw’r adran hon yn gymwys i achos y mae adran 137 yn gymwys iddo.
Cosbau o dan Bennod 3: cyffredinol
I21I58139Gostwng cosb o dan Bennod 3 am ddatgelu
1
Caiff ACC ostwng cosb sy’n daladwy o dan y Bennod hon pan fo person yn gwneud datgeliad cymwys.
2
Ystyr “datgeliad cymwys” yw datgelu—
a
anghywirdeb sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig,
b
bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig, F11...
c
methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad â threth ddatganoledig,
F19d
anghywirdeb sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,
e
bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth, neu
f
methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad ag atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.
3
Mae person yn gwneud datgeliad cymwys drwy—
a
dweud wrth ACC amdano,
b
rhoi cymorth rhesymol i ACC wrth feintioli—
i
yr anghywirdeb,
ii
yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu gelu gwybodaeth, neu
iii
y tanasesiad, ac
c
caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben sicrhau bod—
i
yr anghywirdeb,
ii
yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth, neu
iii
y tanasesiad,
yn cael ei gywiro’n llawn.
4
Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—
a
pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a
b
ansawdd y datgeliad.
5
Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—
a
yn “ddigymell” os caiff ei wneud ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod neu ar fin darganfod yr anghywirdeb, bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu neu bod gwybodaeth wedi ei hatal, neu’r tanasesiad, a
b
fel arall, “wedi ei gymell”.
6
Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.
I22I59140Gostyngiad arbennig i gosb o dan Bennod 3
1
Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.
2
Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—
a
gallu i dalu, na
b
y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.
3
Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—
a
dileu cosb yn llwyr,
b
gohirio cosb, ac
c
cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.
4
Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at gosb yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw log mewn perthynas â chosb.
I23I40141Asesu cosbau o dan Bennod 3
1
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—
a
asesu’r gosb,
b
dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac
c
datgan yn yr hysbysiad ar gyfer pa gyfnod F41, trafodiad neu hawliad am gredyd treth yr aseswyd y gosb.
2
Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad o dreth ddatganoledig.
3
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 129 neu 132 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
a
â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer y penderfyniad sy’n cywiro’r anghywirdeb, neu
b
os nad oes asesiad o’r dreth o dan sylw o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod y caiff yr anghywirdeb ei gywiro.
4
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 133 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
a
â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad treth a oedd yn cywiro’r tanddatganiad, neu
b
os nad oes asesiad sy’n cywiro’r tanddatganiad, â’r diwrnod y caiff y tanddatganiad ei gywiro.
5
Yn is-adrannau (3) a (4), ystyr “cyfnod apelio” F51yw—
a
os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a
b
os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.
6
Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan y Bennod hon os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danddatganiad o’r refeniw posibl a gollir.
Dehongli
I24I52142Dehongli Pennod 3
Yn y Bennod hon—
a
mae cyfeiriad at roi dogfen i ACC yn cynnwys—
i
cyfeiriad at gyfleu gwybodaeth i ACC ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd (boed drwy’r post, ffacs, e-bost, ffôn neu fel arall), a
ii
cyfeiriad at wneud datganiad mewn dogfen;
b
mae cyfeiriad at ddychwelyd ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth yn cynnwys cyfeiriad at ddiwygio ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth ddiwygiedig;
c
d
mae cyfeiriad at weithred yn cynnwys cyfeiriad at anweithred.
PENNOD 4COSBAU SY’N YMWNEUD Â CHADW COFNODION A THREFNIADAU TALU’N ÔL
Cosb am fethu â chadw cofnodion mewn cysylltiad â ffurflenni neu hawliadau treth a’u storio’n ddiogel
I25I62C1143Cosb am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogel
1
Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 F35, 38A neu 69 yn agored i gosb heb fod yn fwy na £3,000.
2
Ond nid oes unrhyw gosb i’w thalu os yw ACC yn fodlon bod unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi, ac y byddai’r cofnodion wedi eu profi, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
I26I56C1144Esgus rhesymol am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogel
1
Os yw person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 F9, 38A neu 69 yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y methiant, nid oes unrhyw rwymedigaeth i gosb o dan adran 143 mewn perthynas â’r methiant.
2
At ddibenion is-adran (1)—
a
nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;
b
pan fo’r person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;
c
os oedd gan y person esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.
I27I54C1145Asesu cosbau o dan adran 143
1
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 143, rhaid i ACC—
a
asesu’r gosb, a
b
dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.
2
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 143 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person wedi methu â chydymffurfio ag adran 38 F17, 38A neu 69.
PENNOD 5COSBAU SY’N YMWNEUD AG YMCHWILIADAU
Cosbau am fethu â chydymffurfio neu am rwystro
I28146Cosb am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am rwystro
1
Mae’r adran hon yn gymwys i berson—
a
sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth,
b
sy’n rhwystro ACC yn fwriadol yn ystod ymchwiliad, neu wrth iddo arfer pŵer, a gymeradwywyd gan y tribiwnlys o dan adran 108,
c
sy’n rhwystro ACC yn fwriadol wrth iddo arfer ei bŵer o dan adran 113(3), neu
d
sy’n methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â gofyniad o dan adran 113(5).
2
Mae’r person yn agored i gosb o £300.
3
Mae’r cyfeiriad at berson sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth yn cynnwys person sy’n celu, yn difa, neu fel arall yn cael gwared â dogfen (neu sy’n trefnu i’w chelu, i’w difa neu i gael gwared arni) yn groes i adran 114 neu 115.
I29147Cosb ddiofyn ddyddiol am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am rwystro
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r methiant neu’r rhwystr a grybwyllir yn adran 146(1) yn parhau ar ôl y diwrnod y dyroddir hysbysiad am gosb o dan adran 153(1)(b) mewn cysylltiad â’r methiant neu’r rhwystr.
2
Ond nid yw’r adran hon yn gymwys—
a
os yw’r methiant yn gysylltiedig â hysbysiad cyswllt dyledwr, neu
b
os yw penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan adran 146 mewn cysylltiad â’r methiant neu’r rhwystr yn destun—
i
adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu
ii
apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.
3
Mae’r person yn agored i gosb bellach neu gosbau pellach heb fod yn fwy na £60 am bob diwrnod y mae’r methiant neu’r rhwystr yn parhau.
I30148Effaith ymestyn y terfyn amser ar gyfer cydymffurfio
Ni chyfyd rhwymedigaeth i gosb o dan adran 146 neu 147 mewn cysylltiad â methiant person i wneud unrhyw beth yr oedd ofynnol ei wneud o fewn cyfnod cyfyngedig os gwnaeth y person hynny o fewn unrhyw gyfnod pellach (os o gwbl) a ganiatawyd gan ACC.
I31149Esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio neu am rwystro
1
Nid oes rhwymedigaeth i gosb o dan adran 146 neu 147 os yw’r person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y methiant neu am rwystro ACC.
2
At ddibenion yr adran hon—
a
nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;
b
pan fo’r person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant neu’r rhwystr;
c
os oedd gan y person esgus rhesymol am y methiant neu’r rhwystr ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro, neu os daw’r rhwystr i ben, heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.
Cosbau pellach am barhau i fethu â chydymffurfio neu am barhau i rwystro
I32150Cosb ddiofyn ddyddiol uwch am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
os caiff cosb o dan adran 147 ei hasesu o dan adran 153 mewn cysylltiad â methiant person i gydymffurfio â hysbysiad trydydd parti anhysbys,
b
os yw’r methiant yn parhau am fwy na 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddwyd hysbysiad am y gosb, ac
c
os dywedwyd wrth y person y gellir gwneud cais o dan yr adran hon i osod cosb ddyddiol uwch.
2
Caiff ACC wneud cais i’r tribiwnlys osod cosb ddyddiol uwch ar y person.
3
Ond ni chaiff ACC wneud cais o’r fath os yw penderfyniad mewn perthynas â chosb o dan adran 146 neu 147 mewn cysylltiad â’r methiant yn destun—
a
adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu
b
apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.
4
Os yw’r tribiwnlys yn penderfynu y dylid gosod cosb ddyddiol uwch, yna ar gyfer pob diwrnod cymwys y mae’r methiant yn parhau—
a
nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 147 am y methiant, a
b
mae’r person yn agored yn hytrach i gosb o dan yr adran hon o swm a bennir gan y tribiwnlys.
5
Ni chaiff y tribiwnlys bennu swm sy’n uwch na £1,000 ar gyfer pob diwrnod cymwys.
6
Wrth bennu’r swm rhaid i’r tribiwnlys roi sylw i—
a
cost debygol cydymffurfio â’r hysbysiad i’r person,
b
unrhyw fuddiannau i’r person o beidio â chydymffurfio â’r hysbysiad, ac
c
unrhyw fuddiannau i unrhyw un arall sy’n deillio o’r ffaith nad yw’r person wedi cydymffurfio.
7
Os daw person yn agored i gosb o dan yr adran hon, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad sy’n nodi’r ffaith honno i’r person.
8
Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y diwrnod cyntaf y bydd y gosb uwch yn gymwys.
9
Mae’r diwrnod hwnnw ac unrhyw ddiwrnod dilynol y mae’r methiant yn parhau yn “ddiwrnod cymwys” at ddibenion yr adran hon ac adran 153(4).
I33151Cosb gysylltiedig â threth am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am rwystro
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
a
person yn dod yn agored i gosb o dan adran 146,
b
y methiant neu’r rhwystr yn parhau ar ôl y diwrnod y dyroddir hysbysiad am gosb o dan adran 153(1)(b) mewn cysylltiad â’r gosb,
c
ACC â rheswm i gredu bod swm y dreth ddatganoledig y mae’r person wedi ei dalu, neu y mae’n debygol o’i dalu, yn sylweddol is na’r hyn y byddai wedi bod fel arall o ganlyniad i’r methiant neu’r rhwystr,
d
cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol, ACC yn gwneud cais i’r Uwch Dribiwnlys i gosb ychwanegol gael ei gosod ar y person (gweler is-adran (6)) ac yn rhoi hysbysiad am y cais i’r person, ac
e
yr Uwch Dribiwnlys yn penderfynu ei bod yn briodol gosod cosb ychwanegol.
2
Mae’r person yn agored i gosb o swm a bennir gan yr Uwch Dribiwnlys.
3
Wrth bennu’r swm, rhaid i’r Uwch Dribiwnlys roi sylw i swm y dreth ddatganoledig nad yw’r person wedi ei dalu, neu nad yw’n debygol o’i dalu.
4
Mae unrhyw gosb o dan yr adran hon yn ychwanegol at y gosb neu’r cosbau o dan adran 146 neu 147.
5
Yn is-adran (1)(d), ystyr y “dyddiad perthnasol” yw—
a
mewn achos sy’n ymwneud â hysbysiad gwybodaeth y caiff person apelio yn ei erbyn, y diweddaraf o’r canlynol—
i
y diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb o dan adran 146,
ii
os na wneir apêl yn erbyn yr hysbysiad gwybodaeth, diwedd y cyfnod y gellid bod wedi gwneud apêl o’r fath, a
iii
os gwneir apêl o’r fath, y diwrnod y caiff yr apêl ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl, a
b
mewn unrhyw achos arall, y diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb o dan adran 146.
6
Ni chaiff ACC wneud cais o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(d) os yw penderfyniad sy’n ymwneud â chosb o dan adran 146, 147 neu 150 mewn cysylltiad â’r methiant neu’r rhwystr yn destun—
a
adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu
b
apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.
Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywir
I34152Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywir
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
os yw person yn darparu gwybodaeth anghywir, neu’n cyflwyno dogfen sy’n cynnwys anghywirdeb, wrth gydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth heblaw hysbysiad cyswllt dyledwr, a
b
os bodlonir amod 1, 2 neu 3.
2
Amod 1 yw bod yr anghywirdeb—
a
yn fwriadol, neu
b
yn deillio o fethiant ar ran y person i gymryd gofal rhesymol.
3
Amod 2 yw bod y person yn gwybod am yr anghywirdeb ar yr adeg y darperir yr wybodaeth neu y cyflwynir y ddogfen ond nad yw’n hysbysu ACC ar y pryd.
4
Amod 3 yw bod y person—
a
yn darganfod yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a
b
yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC.
5
Mae’r person yn agored i gosb heb fod yn fwy na £3,000.
6
Pan fo’r wybodaeth neu’r ddogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amod 1, 2 neu 3 mewn cysylltiad â hwy, mae cosb yn daladwy am bob anghywirdeb o’r fath.
Cosbau o dan Bennod 5: cyffredinol
I35153Asesu cosbau o dan Bennod 5
1
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—
a
asesu’r gosb, a
b
dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.
2
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 146 neu 147 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb.
3
Ond mewn achos sy’n ymwneud â hysbysiad gwybodaeth y caiff person apelio yn ei erbyn, rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 146 neu 147 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diweddaraf o’r canlynol—
a
y diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb,
b
os na wneir apêl yn erbyn yr hysbysiad, diwedd y cyfnod y gellid bod wedi gwneud apêl o’r fath, ac
c
os gwneir apêl o’r fath, y diwrnod y caiff yr apêl ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.
4
Rhaid gwneud asesiad o gosbau o dan adran 150—
a
ar ddiwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod cymwys cyntaf, a
b
ar ddiwedd pob cyfnod dilynol o 7 niwrnod sy’n cynnwys diwrnod cymwys.
5
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 151 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y penderfynodd yr Uwch Dribiwnlys ei bod yn briodol gosod y gosb.
6
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 152—
a
o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth yr anghywirdeb i sylw ACC yn gyntaf, a
b
o fewn y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb.
PENNOD 6TALU COSBAU
I36154Talu cosbau
Rhaid talu cosb o dan y Rhan hon cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddwyd hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182).
PENNOD 7ATODOL
I37155Gwahardd cosbi ddwywaith
Nid yw person yn agored i gosb o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi ei gollfarnu o drosedd mewn perthynas â hynny.
I38I50156Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbau
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth (neu ddarpariaeth bellach) ynghylch—
a
symiau cosbau o dan y Rhan hon;
b
y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan y Rhan hon.
2
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).
3
Ni chaiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon fod yn gymwys—
a
i fethiant sy’n dechrau cyn y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym, neu
b
i anghywirdeb mewn unrhyw wybodaeth neu ddogfen a ddarparwyd i ACC cyn y diwrnod hwnnw.
Geiriau yn Rhn. 5 Pnd. 2 pennawd wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 23