RHAN 5COSBAU
PENNOD 1TROSOLWG
I1117Trosolwg o’r Rhan
1
Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth am gosbau sy’n ymwneud â threthi datganoledig, gan gynnwys—
a
cosbau sy’n ymwneud â methiannau i ddychwelyd ffurflenni treth neu i dalu trethi datganoledig,
b
cosbau sy’n ymwneud ag anghywirdebau,
c
cosbau sy’n ymwneud â chadw cofnodion a threfniadau talu’n ôl, a
d
cosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau.
2
Mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—
a
yr amgylchiadau pan gyfyd rhwymedigaeth i’r cosbau hynny,
b
symiau’r cosbau hynny,
c
yr amgylchiadau pan ganiateir gohirio rhwymedigaeth i’r cosbau hynny neu ostwng symiau’r cosbau hynny,
d
asesu’r cosbau hynny, ac
e
talu’r cosbau hynny.