[F2(1)] Mae person [F3y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb o £100 os yw’r person yn methu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny.
[F4(2)Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.]
Diwygiadau Testunol
F2A. 118(1): a. 118 wedi ei ailrifo fel a. 118(1) (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 9(a); O.S. 2018/35, ergl. 3
F3Geiriau yn a. 118 wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 39; O.S. 2018/34, ergl. 3
F4A. 118(2) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 9(b); O.S. 2018/35, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 118 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd o dan adran 39 o DTGT, mae cyfnod cosbi—
(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, a
(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).
(2)Os yw’n ofynnol i’r person ddychwelyd ffurflen dreth arall o dan adran 39 o DTGT (“ffurflen dreth B”) cyn diwedd y cyfnod cosbi ond bod y person yn methu â gwneud hynny ar ddyddiad ffeilio ffurflen dreth B neu cyn hynny—
(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a
(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad ffeilio ffurflen dreth B.
(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at nifer y ffurflenni treth—
(a)yr oedd yn ofynnol i’r person eu dychwelyd o dan adran 39 o DTGT yn ystod y cyfnod cosbi, ond
(b)y mae’r person wedi methu â’u dychwelyd ar ddyddiadau ffeilio’r ffurflenni treth hynny neu cyn hynny.
(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £200 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £300 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £400 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)(b).]
Diwygiadau Testunol
F5A. 118A wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 74, 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
(1)Mae person [F6y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.
(2)Y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol—
(a)5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a
(b)£300.
Diwygiadau Testunol
F6Geiriau yn a. 119(1) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 40; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I4A. 119 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Mae person [F7y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.
(2)Pan fo’r person, drwy fethu â dychwelyd y ffurflen dreth, yn atal yn fwriadol wybodaeth a fyddai’n galluogi neu’n cynorthwyo ACC i asesu rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, y gosb [F8yw—
(a) £300, neu
(b) swm uwch, heb fod yn fwy na 95% o’r swm o dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.]
(3)Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn is-adran (2), y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol—
(a)5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a
(b)£300.
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn a. 120(1) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 41(a); O.S. 2018/34, ergl. 3
F8Geiriau yn a. 120(2) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 41(b); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I6A. 120 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan adran 118, [F9118A,] 119 neu 120 os yw’r person yn datgelu gwybodaeth sydd wedi ei hatal o ganlyniad i fethiant i ddychwelyd ffurflen dreth (“gwybodaeth berthnasol”).
(2)Mae person yn datgelu gwybodaeth berthnasol drwy—
(a)dweud wrth ACC amdani,
(b)rhoi cymorth rhesymol i ACC feintioli unrhyw dreth ddatganoledig nas talwyd oherwydd i’r wybodaeth gael ei hatal, ac
(c)caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben gwirio faint o dreth ddatganoledig nas talwyd fel hyn.
(3)Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—
(a)pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a
(b)ansawdd y datgeliad.
(4)Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—
(a)yn “ddigymell” os gwneir hynny ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod yr wybodaeth berthnasol neu ei fod ar fin ei darganfod, a
(b)fel arall, “wedi ei gymell”.
(5)Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.
Diwygiadau Testunol
F9Gair yn a. 121(1) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 10; O.S. 2018/35, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I8A. 121 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3