xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CCOSBAU

PENNOD 2LL+CCOSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH [F1NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH]

Cosb am fethu â thalu trethLL+C

[F2122[F2Cosb am fethu â thalu treth mewn pryd]LL+C

(1)Mae person yn agored i gosb os yw’r person wedi methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny mewn cysylltiad â’r swm hwnnw.

[F3(2)Y gosb—

(a)mewn cysylltiad â swm o dreth trafodiadau tir, yw 5% o swm y dreth nas talwyd;

(b)mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, yw 1% o swm y dreth nas talwyd.]

[F4(2A)Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).]

(3)Yn yr adran hon ac yn [F5adrannau 122ZA a 122A], y dyddiad cosbi mewn cysylltiad â swm o dreth ddatganoledig a bennir yng ngholofn 3 o Dabl A1 yw’r dyddiad a bennir yng ngholofn 4.

TABL A1
EitemY dreth ddatganoledigSwm y drethY dyddiad cosbi
1Treth trafodiadau tirSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth a ddychwelir gan y prynwr mewn trafodiad tir (oni bai bod y swm o fewn eitem 8 neu 9).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
2Treth gwarediadau tirlenwiSwm [F6sy’n daladwy o ganlyniad i] ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
3Unrhyw dreth ddatganoledigSwm sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.
4Unrhyw dreth ddatganoledigSwm sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth (oni bai bod y swm o fewn eitem 7).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.
5Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
6Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
7Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir at ddibenion gwneud addasiad i wrthweithio mantais drethiannol (gweler Rhan 3A) mewn achos pan na fo ffurflen dreth y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn ofynnol ei dychwelyd wedi ei dychwelyd mewn gwirionedd.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
8Treth trafodiadau tirPan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm gohiriedig y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd adran 61(1) o’r Ddeddf honno.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig.
9Treth trafodiadau tirPan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm a wrthodir o fewn ystyr adran 61(2)(a) o’r Ddeddf honno.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir.
10Treth gwarediadau tirlenwiSwm a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran [F749 neu 50] o DTGT.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm.
11Unrhyw dreth ddatganoledigSwm gohiriedig o fewn ystyr adran 181G(2).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae’r cyfnod gohirio yn dod i ben (gweler adran 181G ynglŷn â chyfrifo cyfnodau gohirio).

(4)Yn yr adran hon, mae i “swm gohiriedig” yr un ystyr ag yn adran 58(6)(a) DTTT.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru addasu Tabl A1 drwy reoliadau.]

[F8122ZACosb am fethiannau lluosog i dalu treth gwarediadau tirlenwi mewn prydLL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methiant i dalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny, mae cyfnod cosbi—

(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, a

(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

(2)Os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod cosbi, yn methu â thalu swm arall o dreth gwarediadau tirlenwi (“swm B”) ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122(1) mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer swm B.

(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at—

(a)swm B, a

(b)sawl tro yn ystod y cyfnod cosbi y mae person wedi methu â thalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny.

(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 2% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 3% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 4% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).]

[F2122ACosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn agored i gosb o dan adran 122 [F9neu 122ZA] mewn cysylltiad â methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.

(2)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i gosb bellach.

(3)Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.

(4)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i ail gosb bellach.

(5)Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.]

F10123Gohirio cosb am fethu â thalu treth pan fo cytundeb cyfredol i ohirio taliadLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .