Cosb am fethu â thalu trethLL+C
[F1122[F1Cosb am fethu â thalu treth mewn pryd]LL+C
(1)Mae person yn agored i gosb os yw’r person wedi methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny mewn cysylltiad â’r swm hwnnw.
[F2(2)Y gosb—
(a)mewn cysylltiad â swm o dreth trafodiadau tir, yw 5% o swm y dreth nas talwyd;
(b)mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, yw 1% o swm y dreth nas talwyd.]
[F3(2A)Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).]
(3)Yn yr adran hon ac yn [F4adrannau 122ZA a 122A], y dyddiad cosbi mewn cysylltiad â swm o dreth ddatganoledig a bennir yng ngholofn 3 o Dabl A1 yw’r dyddiad a bennir yng ngholofn 4.
TABL A1
Eitem | Y dreth ddatganoledig | Swm y dreth | Y dyddiad cosbi |
---|---|---|---|
1 | Treth trafodiadau tir | Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth a ddychwelir gan y prynwr mewn trafodiad tir (oni bai bod y swm o fewn eitem 8 neu 9). | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth. |
2 | Treth gwarediadau tirlenwi | Swm [F5sy’n daladwy o ganlyniad i] ffurflen dreth. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth. |
3 | Unrhyw dreth ddatganoledig | Swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth. |
4 | Unrhyw dreth ddatganoledig | Swm sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth (oni bai bod y swm o fewn eitem 7). | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth. |
5 | Unrhyw dreth ddatganoledig | Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol). |
6 | Unrhyw dreth ddatganoledig | Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol). |
7 | Unrhyw dreth ddatganoledig | Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir at ddibenion gwneud addasiad i wrthweithio mantais drethiannol (gweler Rhan 3A) mewn achos pan na fo ffurflen dreth y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn ofynnol ei dychwelyd wedi ei dychwelyd mewn gwirionedd. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol). |
8 | Treth trafodiadau tir | Pan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm gohiriedig y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd adran 61(1) o’r Ddeddf honno. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig. |
9 | Treth trafodiadau tir | Pan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm a wrthodir o fewn ystyr adran 61(2)(a) o’r Ddeddf honno. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir. |
10 | Treth gwarediadau tirlenwi | Swm a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran [F649 neu 50] o DTGT. | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm. |
11 | Unrhyw dreth ddatganoledig | Swm gohiriedig o fewn ystyr adran 181G(2). | Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae’r cyfnod gohirio yn dod i ben (gweler adran 181G ynglŷn â chyfrifo cyfnodau gohirio). |
(4)Yn yr adran hon, mae i “swm gohiriedig” yr un ystyr ag yn adran 58(6)(a) DTTT.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru addasu Tabl A1 drwy reoliadau.]
Diwygiadau Testunol
F1Aau. 122, 122A wedi eu hamnewid ar gyfer a. 122 (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 42; O.S. 2018/34, ergl. 3
F2A. 122(2) wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 75, 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
F3A. 122(2A) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 11(a); O.S. 2018/35, ergl. 3
F4Geiriau yn a. 122(3) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 11(b); O.S. 2018/35, ergl. 3
F5Geiriau yn a. 122 Tabl A1 Eitem 2 wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 24
F6Geiriau yn a. 122(3) Tabl A1 wedi eu hamnewid (1.4.2024) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/367), rhlau. 1, 5
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 122 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 122 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
[F7122ZACosb am fethiannau lluosog i dalu treth gwarediadau tirlenwi mewn prydLL+C
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methiant i dalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny, mae cyfnod cosbi—
(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, a
(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).
(2)Os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod cosbi, yn methu â thalu swm arall o dreth gwarediadau tirlenwi (“swm B”) ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny—
(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122(1) mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a
(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer swm B.
(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at—
(a)swm B, a
(b)sawl tro yn ystod y cyfnod cosbi y mae person wedi methu â thalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny.
(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 2% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 3% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 4% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)(b).]
Diwygiadau Testunol
F7A. 122ZA wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 76, 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
[F1122ACosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledigLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn agored i gosb o dan adran 122 [F8neu 122ZA] mewn cysylltiad â methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.
(2)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i gosb bellach.
(3)Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.
(4)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i ail gosb bellach.
(5)Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.]
Diwygiadau Testunol
F1Aau. 122, 122A wedi eu hamnewid ar gyfer a. 122 (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 42; O.S. 2018/34, ergl. 3
F8Geiriau yn a. 122A(1) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 12; O.S. 2018/35, ergl. 3
F9123Gohirio cosb am fethu â thalu treth pan fo cytundeb cyfredol i ohirio taliadLL+C
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F9A. 123 wedi ei hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 43; O.S. 2018/34, ergl. 3