RHAN 5COSBAU

PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH F18NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH

Annotations:
Amendments (Textual)

Cosbau o dan Bennod 2: cyffredinol

F13124Cydarwaith cosbau

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I1I6C1125Gostyngiad arbennig i’r gosb o dan Bennod 2

1

Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.

2

Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—

a

y gallu i dalu, na

b

y ffaith fod y posibilrwydd o golli refeniw gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.

F62A

Ond gall “amgylchiadau arbennig” gynnwys y ffaith fod ACC wedi cytuno y caiff person dalu swm o dreth ddatganoledig mewn rhandaliadau dros gyfnod cytunedig.

3

Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—

a

dileu cosb yn llwyr,

b

gohirio cosb, ac

c

cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.

4

Yn yr adran hon mae cyfeiriad at gosb yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw log mewn perthynas â chosb.

I2I7C1126Esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth F2neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth

1

Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adrannau 118 i 120 mewn perthynas â’r methiant.

2

Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â thalu treth ddatganoledig, nid yw’r person yn agored i gosb o dan F9adrannau 122 i 122A mewn perthynas â’r methiant.

F192A

Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol dros fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 123A mewn perthynas â’r methiant.

3

At ddibenion is-adrannau (1) F12, (2) a (2A)

a

nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;

b

pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;

c

os oedd gan berson esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

I3I8C1127Asesu cosbau o dan Bennod 2

1

Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC

a

asesu’r gosb,

b

dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac

c

datgan yn yr hysbysiad y cyfnod F7, y trafodiad neu’r swm yr aseswyd y gosb mewn perthynas ag ef.

2

Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad ar gyfer treth ddatganoledig.

3

Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth.

4

Os yw—

a

asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 yn seiliedig ar swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth, a

b

ACC yn darganfod bod y rhwymedigaeth honno yn ormodol,

caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

5

Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 F5, 122ZAF22neu 122A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig a oedd yn daladwy.

6

Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 F1, 122ZAF11neu 122A yn seiliedig ar swm o dreth sy’n daladwy y mae ACC yn darganfod ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

F156A

Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r credyd treth o dan sylw.

6B

Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A yn seiliedig ar swm y darganfyddir ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

7

O ran diwygiad a wneir o dan is-adran (4) F14, (6) neu (6B)

a

nid yw’n effeithio ar ba bryd y mae’n rhaid talu’r gosb, a

b

caniateir ei wneud ar ôl y diwrnod olaf y gellid bod wedi gwneud yr asesiad o dan sylw o dan adran 128.

I4I5C1128Terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2

1

Rhaid asesu cosb o dan y Bennod hon F8... ar neu cyn y diweddaraf o ddyddiad A a (pan fo’n gymwys) dyddiad B.

2

Dyddiad A yw diwrnod olaf y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau—

a

yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth, â’r dyddiad ffeilio, F21...

b

yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig, â’r dyddiad cosbi F20, neu

c

yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, â’r dyddiad cosbi.

3

Dyddiad B yw diwrnod olaf y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

a

yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth—

i

â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, neu

ii

os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y caiff y rhwymedigaeth honno ei chanfod neu’r dyddiad y canfyddir mai dim yw’r rhwymedigaeth;

b

yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig—

i

â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef, neu

ii

os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y canfyddir y swm hwnnw o dreth ddatganoledig.

F4c

yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o’r swm yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef.

4

Yn is-adran (2)(b), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran F3122(3).

F174A

Yn is-adran (2)(c), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 123A(3).

5

Yn is-adran (3) F10..., ystyr “cyfnod apelio” F16yw

a

os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a

b

os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.