RHAN 5COSBAU
PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH F20NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH
Cosbau o dan Bennod 2: cyffredinol
F12124Cydarwaith cosbau
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I5I8C1125Gostyngiad arbennig i’r gosb o dan Bennod 2
1
Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.
2
Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—
a
y gallu i dalu, na
b
y ffaith fod y posibilrwydd o golli refeniw gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.
F162A
Ond gall “amgylchiadau arbennig” gynnwys y ffaith fod ACC wedi cytuno y caiff person dalu swm o dreth ddatganoledig mewn rhandaliadau dros gyfnod cytunedig.
3
Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—
a
dileu cosb yn llwyr,
b
gohirio cosb, ac
c
cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.
4
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at gosb yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw log mewn perthynas â chosb.
I2I1C1126Esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth F18neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth
1
Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adrannau 118 i 120 mewn perthynas â’r methiant.
2
Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â thalu treth ddatganoledig, nid yw’r person yn agored i gosb o dan F7adrannau 122 i 122A mewn perthynas â’r methiant.
F142A
Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol dros fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 123A mewn perthynas â’r methiant.
3
At ddibenion is-adrannau (1) F10, (2) a (2A)—
a
nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;
b
pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;
c
os oedd gan berson esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.
I7I6C1127Asesu cosbau o dan Bennod 2
1
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—
a
asesu’r gosb,
b
dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac
c
datgan yn yr hysbysiad y cyfnod F17, y trafodiad neu’r swm yr aseswyd y gosb mewn perthynas ag ef.
2
Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad ar gyfer treth ddatganoledig.
3
Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth.
4
Os yw—
a
asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 yn seiliedig ar swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth, a
b
ACC yn darganfod bod y rhwymedigaeth honno yn ormodol,
caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.
5
6
F86A
Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r credyd treth o dan sylw.
6B
Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A yn seiliedig ar swm y darganfyddir ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.
7
O ran diwygiad a wneir o dan is-adran (4) F1, (6) neu (6B)—
a
nid yw’n effeithio ar ba bryd y mae’n rhaid talu’r gosb, a
b
caniateir ei wneud ar ôl y diwrnod olaf y gellid bod wedi gwneud yr asesiad o dan sylw o dan adran 128.
I3I4C1128Terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2
1
Rhaid asesu cosb o dan y Bennod hon F21... ar neu cyn y diweddaraf o ddyddiad A a (pan fo’n gymwys) dyddiad B.
2
Dyddiad A yw diwrnod olaf y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau—
a
yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth, â’r dyddiad ffeilio, F13...
b
yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig, â’r dyddiad cosbi F19, neu
c
yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, â’r dyddiad cosbi.
3
Dyddiad B yw diwrnod olaf y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
a
yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth—
i
â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, neu
ii
os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y caiff y rhwymedigaeth honno ei chanfod neu’r dyddiad y canfyddir mai dim yw’r rhwymedigaeth;
b
yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig—
i
â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef, neu
ii
os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y canfyddir y swm hwnnw o dreth ddatganoledig.
F5c
yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o’r swm yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef.
4
Yn is-adran (2)(b), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran F9122(3).
F224A
Yn is-adran (2)(c), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 123A(3).
5
a
os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a
b
os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.
Geiriau yn Rhn. 5 Pnd. 2 pennawd wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 23