RHAN 5COSBAU

PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH F34NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH

Annotations:
Amendments (Textual)

Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth

I17I2118Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny

F141

Mae person F3y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth yn agored i gosb o £100 os yw’r person yn methu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny.

F322

Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.

118AF6Cosbau am fethiannau lluosog i ddychwelyd ffurflenni treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi

1

Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd o dan adran 39 o DTGT, mae cyfnod cosbi—

a

yn dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, a

b

yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

2

Os yw’n ofynnol i’r person ddychwelyd ffurflen dreth arall o dan adran 39 o DTGT (“ffurflen dreth B”) cyn diwedd y cyfnod cosbi ond bod y person yn methu â gwneud hynny ar ddyddiad ffeilio ffurflen dreth B neu cyn hynny—

a

nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

b

caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad ffeilio ffurflen dreth B.

3

Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at nifer y ffurflenni treth—

a

yr oedd yn ofynnol i’r person eu dychwelyd o dan adran 39 o DTGT yn ystod y cyfnod cosbi, ond

b

y mae’r person wedi methu â’u dychwelyd ar ddyddiadau ffeilio’r ffurflenni treth hynny neu cyn hynny.

4

Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £200 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

5

Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £300 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

6

Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £400 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

7

Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).

I6I12119Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 6 mis wedi’r dyddiad ffeilio

1

Mae person F21y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.

2

Y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol—

a

5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a

b

£300.

I11I10120Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 12 mis wedi’r dyddiad ffeilio

1

Mae person F12y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.

2

Pan fo’r person, drwy fethu â dychwelyd y ffurflen dreth, yn atal yn fwriadol wybodaeth a fyddai’n galluogi neu’n cynorthwyo ACC i asesu rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, y gosb F37yw—

a

£300, neu

b

swm uwch, heb fod yn fwy na 95% o’r swm o dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.

3

Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn is-adran (2), y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol⁠—

a

5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a

b

£300.

I1I16121Gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgelu

1

Caiff ACC ostwng cosb o dan adran 118, F11118A, 119 neu 120 os yw’r person yn datgelu gwybodaeth sydd wedi ei hatal o ganlyniad i fethiant i ddychwelyd ffurflen dreth (“gwybodaeth berthnasol”).

2

Mae person yn datgelu gwybodaeth berthnasol drwy—

a

dweud wrth ACC amdani,

b

rhoi cymorth rhesymol i ACC feintioli unrhyw dreth ddatganoledig nas talwyd oherwydd i’r wybodaeth gael ei hatal, ac

c

caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben gwirio faint o dreth ddatganoledig nas talwyd fel hyn.

3

Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—

a

pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a

b

ansawdd y datgeliad.

4

Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—

a

yn “ddigymell” os gwneir hynny ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod yr wybodaeth berthnasol neu ei fod ar fin ei darganfod, a

b

fel arall, “wedi ei gymell”.

5

Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.

Cosb am fethu â thalu treth

I4I8F29122F29Cosb am fethu â thalu treth mewn pryd

1

Mae person yn agored i gosb os yw’r person wedi methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny mewn cysylltiad â’r swm hwnnw.

F392

Y gosb—

a

mewn cysylltiad â swm o dreth trafodiadau tir, yw 5% o swm y dreth nas talwyd;

b

mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, yw 1% o swm y dreth nas talwyd.

F252A

Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).

3

Yn yr adran hon ac yn F16adrannau 122ZA a 122A, y dyddiad cosbi mewn cysylltiad â swm o dreth ddatganoledig a bennir yng ngholofn 3 o Dabl A1 yw’r dyddiad a bennir yng ngholofn 4.

TABL A1

Eitem

Y dreth ddatganoledig

Swm y dreth

Y dyddiad cosbi

1

Treth trafodiadau tir

Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth a ddychwelir gan y prynwr mewn trafodiad tir (oni bai bod y swm o fewn eitem 8 neu 9).

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.

2

Treth gwarediadau tirlenwi

Swm F15sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.

3

Unrhyw dreth ddatganoledig

Swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.

4

Unrhyw dreth ddatganoledig

Swm sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth (oni bai bod y swm o fewn eitem 7).

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.

5

Unrhyw dreth ddatganoledig

Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).

6

Unrhyw dreth ddatganoledig

Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).

7

Unrhyw dreth ddatganoledig

Swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir at ddibenion gwneud addasiad i wrthweithio mantais drethiannol (gweler Rhan 3A) mewn achos pan na fo ffurflen dreth y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn ofynnol ei dychwelyd wedi ei dychwelyd mewn gwirionedd.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).

8

Treth trafodiadau tir

Pan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm gohiriedig y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd adran 61(1) o’r Ddeddf honno.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig.

9

Treth trafodiadau tir

Pan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm a wrthodir o fewn ystyr adran 61(2)(a) o’r Ddeddf honno.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir.

10

Treth gwarediadau tirlenwi

Swm a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran F4049 neu 50 o DTGT.

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm.

11

Unrhyw dreth ddatganoledig

Swm gohiriedig o fewn ystyr adran 181G(2).

Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae’r cyfnod gohirio yn dod i ben (gweler adran 181G ynglŷn â chyfrifo cyfnodau gohirio).

4

Yn yr adran hon, mae i “swm gohiriedig” yr un ystyr ag yn adran 58(6)(a) DTTT.

5

Caiff Gweinidogion Cymru addasu Tabl A1 drwy reoliadau.

122ZAF36Cosb am fethiannau lluosog i dalu treth gwarediadau tirlenwi mewn pryd

1

Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methiant i dalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny, mae cyfnod cosbi—

a

yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, a

b

yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

2

Os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod cosbi, yn methu â thalu swm arall o dreth gwarediadau tirlenwi (“swm B”) ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny—

a

nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122(1) mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

b

caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer swm B.

3

Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at—

a

swm B, a

b

sawl tro yn ystod y cyfnod cosbi y mae person wedi methu â thalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny.

4

Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 2% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

5

Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 3% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

6

Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 4% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

7

Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).

122AF29Cosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn agored i gosb o dan adran 122 F30neu 122ZA mewn cysylltiad â methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.

2

Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i gosb bellach.

3

Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.

4

Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i ail gosb bellach.

5

Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.

F4123Gohirio cosb am fethu â thalu treth pan fo cytundeb cyfredol i ohirio taliad

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F18Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth

Annotations:
Amendments (Textual)

123ACosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth mewn pryd

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson dalu swm o ganlyniad i asesiad ACC a wneir o dan adran 55A.

2

Mae person yn agored i gosb os yw’n yn methu â thalu’r swm ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny.

3

Y dyddiad cosbi yw’r dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.

4

Y gosb yw 5% o’r swm sy’n daladwy o ganlyniad i’r asesiad ACC.

Cosbau o dan Bennod 2: cyffredinol

F22124Cydarwaith cosbau

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I13I18C1125Gostyngiad arbennig i’r gosb o dan Bennod 2

1

Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.

2

Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—

a

y gallu i dalu, na

b

y ffaith fod y posibilrwydd o golli refeniw gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.

F272A

Ond gall “amgylchiadau arbennig” gynnwys y ffaith fod ACC wedi cytuno y caiff person dalu swm o dreth ddatganoledig mewn rhandaliadau dros gyfnod cytunedig.

3

Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—

a

dileu cosb yn llwyr,

b

gohirio cosb, ac

c

cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.

4

Yn yr adran hon mae cyfeiriad at gosb yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw log mewn perthynas â chosb.

I5I3C1126Esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth F31neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth

1

Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adrannau 118 i 120 mewn perthynas â’r methiant.

2

Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â thalu treth ddatganoledig, nid yw’r person yn agored i gosb o dan F10adrannau 122 i 122A mewn perthynas â’r methiant.

F242A

Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol dros fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 123A mewn perthynas â’r methiant.

3

At ddibenion is-adrannau (1) F19, (2) a (2A)

a

nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;

b

pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;

c

os oedd gan berson esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

I15I14C1127Asesu cosbau o dan Bennod 2

1

Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC

a

asesu’r gosb,

b

dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac

c

datgan yn yr hysbysiad y cyfnod F28, y trafodiad neu’r swm yr aseswyd y gosb mewn perthynas ag ef.

2

Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad ar gyfer treth ddatganoledig.

3

Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth.

4

Os yw—

a

asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 yn seiliedig ar swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth, a

b

ACC yn darganfod bod y rhwymedigaeth honno yn ormodol,

caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

5

Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 F26, 122ZAF2neu 122A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig a oedd yn daladwy.

6

Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 F7, 122ZAF9neu 122A yn seiliedig ar swm o dreth sy’n daladwy y mae ACC yn darganfod ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

F136A

Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r credyd treth o dan sylw.

6B

Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A yn seiliedig ar swm y darganfyddir ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

7

O ran diwygiad a wneir o dan is-adran (4) F1, (6) neu (6B)

a

nid yw’n effeithio ar ba bryd y mae’n rhaid talu’r gosb, a

b

caniateir ei wneud ar ôl y diwrnod olaf y gellid bod wedi gwneud yr asesiad o dan sylw o dan adran 128.

I7I9C1128Terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2

1

Rhaid asesu cosb o dan y Bennod hon F35... ar neu cyn y diweddaraf o ddyddiad A a (pan fo’n gymwys) dyddiad B.

2

Dyddiad A yw diwrnod olaf y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau—

a

yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth, â’r dyddiad ffeilio, F23...

b

yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig, â’r dyddiad cosbi F33, neu

c

yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, â’r dyddiad cosbi.

3

Dyddiad B yw diwrnod olaf y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

a

yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth—

i

â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, neu

ii

os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y caiff y rhwymedigaeth honno ei chanfod neu’r dyddiad y canfyddir mai dim yw’r rhwymedigaeth;

b

yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig—

i

â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef, neu

ii

os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y canfyddir y swm hwnnw o dreth ddatganoledig.

F8c

yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o’r swm yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef.

4

Yn is-adran (2)(b), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran F17122(3).

F384A

Yn is-adran (2)(c), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 123A(3).

5

Yn is-adran (3) F5..., ystyr “cyfnod apelio” F20yw

a

os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a

b

os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.