RHAN 5COSBAU

PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU

Cosbau am anghywirdebau mewn dogfennau

I28I4129Cosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACC

1

Mae person yn agored i gosb pan fo—

a

y person yn rhoi dogfen i ACC, a

b

amodau 1 a 2 wedi eu bodloni.

2

Amod 1 yw bod y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb sy’n gyfystyr â’r canlynol, neu’n arwain at y canlynol—

a

tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,

b

datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F19...

c

hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig F16, neu

d

hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.

3

Amod 2 yw bod yr anghywirdeb yn fwriadol neu’n ddiofal ar ran y person.

4

Mae anghywirdeb yn ddiofal ar ran person os gellir ei briodoli i fethiant y person i gymryd gofal rhesymol.

5

Mae anghywirdeb nad oedd yn fwriadol nac yn ddiofal ar ran person pan roddwyd y ddogfen i’w drin fel un diofal—

a

os darganfu’r person yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a

b

os na chymerodd y person gamau rhesymol i roi gwybod i ACC.

6

Pan fo dogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amodau 1 a 2 mewn cysylltiad â hwy, mae’r person yn agored i gosb am bob anghywirdeb o’r fath.

I22I2130Swm y gosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACC

1

Y gosb am anghywirdeb bwriadol yw F13swm heb fod yn fwy na 100% o’r refeniw posibl a gollir.

2

Y gosb am anghywirdeb diofal yw F11swm heb fod yn fwy na 30% o’r refeniw posibl a gollir.

I24I3131Gohirio cosb am anghywirdeb diofal

1

Caiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb am anghywirdeb diofal o dan adran 129 drwy ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb.

2

Rhaid i’r hysbysiad bennu—

a

pa ran o’r gosb sydd i’w gohirio,

b

cyfnod gohirio nad yw’n hwy na 2 flynedd, ac

c

amodau gohirio y mae’n rhaid i’r person gydymffurfio â hwy.

3

Ni chaiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb oni fyddai cydymffurfio ag amod gohirio yn helpu’r person i osgoi dod yn agored i gosbau pellach o dan adran 129 am anghywirdeb diofal.

4

Caiff amod gohirio bennu—

a

cam sydd i’w gymryd, a

b

cyfnod ar gyfer cymryd y cam hwnnw.

5

Pan ddaw’r cyfnod gohirio i ben—

a

os yw’r person yn bodloni ACC y cydymffurfiwyd â’r amodau gohirio, caiff y gosb neu’r rhan a ohiriwyd ei chanslo, a

b

fel arall, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.

6

Os yw’r person, yn ystod cyfnod gohirio cosb gyfan neu ran o gosb sy’n daladwy o dan adran 129, yn dod yn agored i gosb arall o dan yr adran honno, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.

I21I26132Cosb am anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC gan berson arall

1

Mae person (y cyfeirir ato yn yr adran hon fel “person A”) yn agored i gosb pan fo—

a

person arall yn rhoi dogfen i ACC,

b

y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb perthnasol, ac

c

yr anghywirdeb i’w briodoli—

i

i berson A yn darparu gwybodaeth ffug i’r person arall yn fwriadol (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), neu

ii

i berson A yn atal gwybodaeth yn fwriadol rhag y person arall,

gyda’r bwriad bod y ddogfen yn cynnwys yr anghywirdeb.

2

Mae “anghywirdeb perthnasol” yn anghywirdeb sy’n gyfystyr ag, neu’n arwain at—

a

tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,

b

datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F3...

c

hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig F18, neu

d

hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.

3

Mae person A yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag anghywirdeb pa un a yw’r person arall yn agored i gosb ai peidio o dan adran 129 mewn perthynas â’r un anghywirdeb.

4

Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw F1 100% o’r refeniw posibl a gollir.

Cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad etc.

I8I1133Cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad neu danddyfarniad

1

Mae person yn agored i gosb pan fo—

a

asesiad ACC yn tanddatgan rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, a

b

y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.

F81A

Mae person hefyd yn agored i gosb pan fo—

a

asesiad ACC o dan adran 55A yn tanddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person ei dalu i ACC, a

b

y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.

2

Wrth benderfynu pa gamau (os o gwbl) a oedd yn rhesymol, rhaid i ACC ystyried pa un a wyddai’r person am y tanasesiad, neu a ddylai fod wedi gwybod amdano.

3

Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw F10swm heb fod yn fwy na 30% o’r refeniw posibl a gollir.

4

Yn yr adran hon—

a

mae “asesiad ACC” yn cynnwys dyfarniad a wnaed gan ACC o dan adran 52, a

b

yn unol â hynny, mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at danasesiad yn cynnwys cyfeiriadau at danddyfarniad.

Refeniw posibl a gollir

I5I13134Ystyr “refeniw posibl a gollir”

Yn y Bennod hon, mae i “refeniw posibl a gollir” yr ystyr a roddir gan adrannau 135 i 138.

I10I12135Refeniw posibl a gollir: y rheol arferol

1

Y “refeniw posibl a gollir” mewn cysylltiad ag—

a

anghywirdeb mewn dogfen (gan gynnwys anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth), neu

b

methiant i hysbysu ynghylch tanasesiad,

yw’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad â threth ddatganoledig F17neu gredyd treth o ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb neu’r tanasesiad.

2

Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y swm ychwanegol sy’n daladwy yn cynnwys cyfeiriad at—

a

swm sy’n daladwy i ACC wedi iddo gael ei dalu drwy gamgymeriad ar ffurf ad-daliad o dreth ddatganoledig, F15...

b

swm a fyddai wedi bod i’w ad-dalu gan ACC pe na byddai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro, F2ac

c

swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.

I7I23136Refeniw posibl a gollir: camgymeriadau lluosog

1

Pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad â mwy nag un anghywirdeb, a bod y cyfrifiad o’r refeniw posibl a gollir o dan adran 135 mewn cysylltiad â phob anghywirdeb yn dibynnu ar y drefn y cânt eu cywiro, dylid cymryd bod anghywirdebau diofal yn cael eu cywiro cyn anghywirdebau bwriadol.

2

Wrth gyfrifo refeniw posibl a gollir pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad ag un neu ragor o danddatganiadau mewn un neu ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â chyfnod treth F9, trafodiad neu hawliad am gredyd treth, rhaid rhoi ystyriaeth i unrhyw orddatganiadau mewn unrhyw ddogfen a roddwyd gan y person sy’n ymwneud â’r un cyfnod treth F14, trafodiad neu hawliad am gredyd treth.

3

Yn is-adran (2)—

a

ystyr “tanddatganiad” yw anghywirdeb sy’n bodloni amod 1 yn adran 129, a

b

ystyr “gorddatganiad” yw anghywirdeb nad yw’n bodloni’r amod hwnnw.

4

At ddibenion is-adran (2), mae gorddatganiadau i’w gosod yn erbyn tanddatganiadau yn y drefn a ganlyn—

a

tanddatganiadau nad yw’r person yn agored i gosb mewn cysylltiad â hwy,

b

tanddatganiadau diofal, ac

c

tanddatganiadau bwriadol.

5

Wrth gyfrifo, at ddibenion cosb o dan adran 129, refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â dogfen a roddwyd gan berson neu ar ran person, ni ddylid ystyried y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan berson i’w wrthbwyso, neu y caniateir ei wrthbwyso, gan ordaliad posibl gan berson arall (ac eithrio i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol bod rhwymedigaeth person i dreth ddatganoledig yn cael ei haddasu drwy gyfeirio at rwymedigaeth person arall i dreth ddatganoledig).

I6I18137Refeniw posibl a gollir: colledion

1

Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig a bod y golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, cyfrifir y refeniw posibl a gollir yn unol ag adran 135.

2

Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig ac nad yw’r golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, y refeniw posibl a gollir yw—

a

y refeniw posibl a gollir wedi ei gyfrifo yn unol ag adran 135 mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r golled a ddefnyddiwyd i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, ynghyd â

b

10% o unrhyw ran nas defnyddiwyd.

3

Mae is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i’r canlynol fel ei gilydd—

a

achos pan na fyddai unrhyw golled wedi ei chofnodi oni bai am yr anghywirdeb, a

b

achos pan fyddai swm gwahanol o golled wedi ei gofnodi (ond yn yr achos hwnnw nid yw is-adrannau (1) a (2) ond yn gymwys i’r gwahaniaeth rhwng y swm a gofnodwyd a’r gwir swm).

4

Mae’r refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â cholled yn ddim pan na fo unrhyw obaith rhesymol, oherwydd natur y golled neu amgylchiadau’r person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno, y defnyddir y golled i gefnogi hawliad i ostwng rhwymedigaeth unrhyw berson i’r dreth honno.

I11I20138Refeniw posibl a gollir: treth oediedig

1

Pan fo anghywirdeb wedi arwain at ddatgan swm o dreth ddatganoledig yn hwyrach nag y dylid (“y dreth oediedig”), y refeniw posibl a gollir yw—

a

5% o’r dreth oediedig am bob blwyddyn o’r oedi;

b

canran o’r dreth oediedig, ar gyfer pob cyfnod oedi o lai na blwyddyn, sy’n cyfateb i 5% y flwyddyn.

2

Nid yw’r adran hon yn gymwys i achos y mae adran 137 yn gymwys iddo.

Cosbau o dan Bennod 3: cyffredinol

I17I27139Gostwng cosb o dan Bennod 3 am ddatgelu

1

Caiff ACC ostwng cosb sy’n daladwy o dan y Bennod hon pan fo person yn gwneud datgeliad cymwys.

2

Ystyr “datgeliad cymwys” yw datgelu—

a

anghywirdeb sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig,

b

bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig, F6...

c

methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad â threth ddatganoledig,

F7d

anghywirdeb sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,

e

bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth, neu

f

methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad ag atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.

3

Mae person yn gwneud datgeliad cymwys drwy—

a

dweud wrth ACC amdano,

b

rhoi cymorth rhesymol i ACC wrth feintioli—

i

yr anghywirdeb,

ii

yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu gelu gwybodaeth, neu

iii

y tanasesiad, ac

c

caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben sicrhau bod—

i

yr anghywirdeb,

ii

yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth, neu

iii

y tanasesiad,

yn cael ei gywiro’n llawn.

4

Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—

a

pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a

b

ansawdd y datgeliad.

5

Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—

a

yn “ddigymell” os caiff ei wneud ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod neu ar fin darganfod yr anghywirdeb, bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu neu bod gwybodaeth wedi ei hatal, neu’r tanasesiad, a

b

fel arall, “wedi ei gymell”.

6

Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.

I9I25140Gostyngiad arbennig i gosb o dan Bennod 3

1

Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.

2

Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—

a

gallu i dalu, na

b

y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.

3

Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—

a

dileu cosb yn llwyr,

b

gohirio cosb, ac

c

cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.

4

Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at gosb yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw log mewn perthynas â chosb.

I19I14141Asesu cosbau o dan Bennod 3

1

Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC

a

asesu’r gosb,

b

dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac

c

datgan yn yr hysbysiad ar gyfer pa gyfnod F12, trafodiad neu hawliad am gredyd treth yr aseswyd y gosb.

2

Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad o dreth ddatganoledig.

3

Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 129 neu 132 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

a

â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer y penderfyniad sy’n cywiro’r anghywirdeb, neu

b

os nad oes asesiad o’r dreth o dan sylw o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod y caiff yr anghywirdeb ei gywiro.

4

Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 133 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

a

â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad treth a oedd yn cywiro’r tanddatganiad, neu

b

os nad oes asesiad sy’n cywiro’r tanddatganiad, â’r diwrnod y caiff y tanddatganiad ei gywiro.

5

Yn is-adrannau (3) a (4), ystyr “cyfnod apelio” F4yw

a

os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a

b

os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

6

Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan y Bennod hon os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danddatganiad o’r refeniw posibl a gollir.

Dehongli

I16I15142Dehongli Pennod 3

Yn y Bennod hon—

a

mae cyfeiriad at roi dogfen i ACC yn cynnwys—

i

cyfeiriad at gyfleu gwybodaeth i ACC ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd (boed drwy’r post, ffacs, e-bost, ffôn neu fel arall), a

ii

cyfeiriad at wneud datganiad mewn dogfen;

b

mae cyfeiriad at ddychwelyd ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth yn cynnwys cyfeiriad at ddiwygio ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth ddiwygiedig;

c

mae cyfeiriad at golled yn cynnwys cyfeiriad at dâl, traul, diffyg ac unrhyw swm arall a all fod ar gael ar gyfer didyniad neu F5ryddhad, neu y gellir dibynnu arno er mwyn hawlio didyniad neu F5ryddhad;

d

mae cyfeiriad at weithred yn cynnwys cyfeiriad at anweithred.