Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2024.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, PENNOD 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Mae person yn agored i gosb pan fo—
(a)y person yn rhoi dogfen i ACC, a
(b)amodau 1 a 2 wedi eu bodloni.
(2)Amod 1 yw bod y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb sy’n gyfystyr â’r canlynol, neu’n arwain at y canlynol—
(a)tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,
(b)datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F1...
(c)hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig [F2, neu
(d)hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.]
(3)Amod 2 yw bod yr anghywirdeb yn fwriadol neu’n ddiofal ar ran y person.
(4)Mae anghywirdeb yn ddiofal ar ran person os gellir ei briodoli i fethiant y person i gymryd gofal rhesymol.
(5)Mae anghywirdeb nad oedd yn fwriadol nac yn ddiofal ar ran person pan roddwyd y ddogfen i’w drin fel un diofal—
(a)os darganfu’r person yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a
(b)os na chymerodd y person gamau rhesymol i roi gwybod i ACC.
(6)Pan fo dogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amodau 1 a 2 mewn cysylltiad â hwy, mae’r person yn agored i gosb am bob anghywirdeb o’r fath.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 129(2) wedi ei hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 29(a)
F2A. 129(2)(d) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 29(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 129 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Y gosb am anghywirdeb bwriadol yw [F3swm heb fod yn fwy na] 100% o’r refeniw posibl a gollir.
(2)Y gosb am anghywirdeb diofal yw [F4swm heb fod yn fwy na] 30% o’r refeniw posibl a gollir.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn a. 130(1) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 48(a); O.S. 2018/34, ergl. 3
F4Geiriau yn a. 130(2) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 48(b); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 130 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I4A. 130 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Caiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb am anghywirdeb diofal o dan adran 129 drwy ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb.
(2)Rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a)pa ran o’r gosb sydd i’w gohirio,
(b)cyfnod gohirio nad yw’n hwy na 2 flynedd, ac
(c)amodau gohirio y mae’n rhaid i’r person gydymffurfio â hwy.
(3)Ni chaiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb oni fyddai cydymffurfio ag amod gohirio yn helpu’r person i osgoi dod yn agored i gosbau pellach o dan adran 129 am anghywirdeb diofal.
(4)Caiff amod gohirio bennu—
(a)cam sydd i’w gymryd, a
(b)cyfnod ar gyfer cymryd y cam hwnnw.
(5)Pan ddaw’r cyfnod gohirio i ben—
(a)os yw’r person yn bodloni ACC y cydymffurfiwyd â’r amodau gohirio, caiff y gosb neu’r rhan a ohiriwyd ei chanslo, a
(b)fel arall, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.
(6)Os yw’r person, yn ystod cyfnod gohirio cosb gyfan neu ran o gosb sy’n daladwy o dan adran 129, yn dod yn agored i gosb arall o dan yr adran honno, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I6A. 131 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Mae person (y cyfeirir ato yn yr adran hon fel “person A”) yn agored i gosb pan fo—
(a)person arall yn rhoi dogfen i ACC,
(b)y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb perthnasol, ac
(c)yr anghywirdeb i’w briodoli—
(i)i berson A yn darparu gwybodaeth ffug i’r person arall yn fwriadol (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), neu
(ii)i berson A yn atal gwybodaeth yn fwriadol rhag y person arall,
gyda’r bwriad bod y ddogfen yn cynnwys yr anghywirdeb.
(2)Mae “anghywirdeb perthnasol” yn anghywirdeb sy’n gyfystyr ag, neu’n arwain at—
(a)tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,
(b)datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F5...
(c)hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig [F6, neu
(d)hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.]
(3)Mae person A yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag anghywirdeb pa un a yw’r person arall yn agored i gosb ai peidio o dan adran 129 mewn perthynas â’r un anghywirdeb.
(4)Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw [F7 100% o’r refeniw posibl a gollir.]
Diwygiadau Testunol
F5Gair yn a. 132(2) wedi ei hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 30(a)
F6A. 132(2)(d) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 30(b)
F7Geiriau yn a. 132(4) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 49; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 132 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I8A. 132 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Mae person yn agored i gosb pan fo—
(a)asesiad ACC yn tanddatgan rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, a
(b)y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.
[F8(1A)Mae person hefyd yn agored i gosb pan fo—
(a)asesiad ACC o dan adran 55A yn tanddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person ei dalu i ACC, a
(b)y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.]
(2)Wrth benderfynu pa gamau (os o gwbl) a oedd yn rhesymol, rhaid i ACC ystyried pa un a wyddai’r person am y tanasesiad, neu a ddylai fod wedi gwybod amdano.
(3)Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw [F9swm heb fod yn fwy na] 30% o’r refeniw posibl a gollir.
(4)Yn yr adran hon—
(a)mae “asesiad ACC” yn cynnwys dyfarniad a wnaed gan ACC o dan adran 52, a
(b)yn unol â hynny, mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at danasesiad yn cynnwys cyfeiriadau at danddyfarniad.
Diwygiadau Testunol
F8A. 133(1A) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 31
F9Geiriau yn a. 133(3) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 50; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 133 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I10A. 133 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
Yn y Bennod hon, mae i “refeniw posibl a gollir” yr ystyr a roddir gan adrannau 135 i 138.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 134 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I12A. 134 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Y “refeniw posibl a gollir” mewn cysylltiad ag—
(a)anghywirdeb mewn dogfen (gan gynnwys anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth), neu
(b)methiant i hysbysu ynghylch tanasesiad,
yw’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad â threth ddatganoledig [F10neu gredyd treth] o ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb neu’r tanasesiad.
(2)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y swm ychwanegol sy’n daladwy yn cynnwys cyfeiriad at—
(a)swm sy’n daladwy i ACC wedi iddo gael ei dalu drwy gamgymeriad ar ffurf ad-daliad o dreth ddatganoledig, F11...
(b)swm a fyddai wedi bod i’w ad-dalu gan ACC pe na byddai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro, [F12ac
(c)swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.]
Diwygiadau Testunol
F10Geiriau yn a. 135(1) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 32(2)
F11Gair yn a. 135(2) wedi ei hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 32(3)(a)
F12A. 135(2)(c) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 32(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I14A. 135 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad â mwy nag un anghywirdeb, a bod y cyfrifiad o’r refeniw posibl a gollir o dan adran 135 mewn cysylltiad â phob anghywirdeb yn dibynnu ar y drefn y cânt eu cywiro, dylid cymryd bod anghywirdebau diofal yn cael eu cywiro cyn anghywirdebau bwriadol.
(2)Wrth gyfrifo refeniw posibl a gollir pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad ag un neu ragor o danddatganiadau mewn un neu ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â chyfnod treth [F13, trafodiad neu hawliad am gredyd treth], rhaid rhoi ystyriaeth i unrhyw orddatganiadau mewn unrhyw ddogfen a roddwyd gan y person sy’n ymwneud â’r un cyfnod treth [F14, trafodiad neu hawliad am gredyd treth].
(3)Yn is-adran (2)—
(a)ystyr “tanddatganiad” yw anghywirdeb sy’n bodloni amod 1 yn adran 129, a
(b)ystyr “gorddatganiad” yw anghywirdeb nad yw’n bodloni’r amod hwnnw.
(4)At ddibenion is-adran (2), mae gorddatganiadau i’w gosod yn erbyn tanddatganiadau yn y drefn a ganlyn—
(a)tanddatganiadau nad yw’r person yn agored i gosb mewn cysylltiad â hwy,
(b)tanddatganiadau diofal, ac
(c)tanddatganiadau bwriadol.
(5)Wrth gyfrifo, at ddibenion cosb o dan adran 129, refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â dogfen a roddwyd gan berson neu ar ran person, ni ddylid ystyried y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan berson i’w wrthbwyso, neu y caniateir ei wrthbwyso, gan ordaliad posibl gan berson arall (ac eithrio i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol bod rhwymedigaeth person i dreth ddatganoledig yn cael ei haddasu drwy gyfeirio at rwymedigaeth person arall i dreth ddatganoledig).
Diwygiadau Testunol
F13Geiriau yn a. 136(2) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 33(a)
F14Geiriau yn a. 136(2) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 33(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I16A. 136 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig a bod y golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, cyfrifir y refeniw posibl a gollir yn unol ag adran 135.
(2)Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig ac nad yw’r golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, y refeniw posibl a gollir yw—
(a)y refeniw posibl a gollir wedi ei gyfrifo yn unol ag adran 135 mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r golled a ddefnyddiwyd i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, ynghyd â
(b)10% o unrhyw ran nas defnyddiwyd.
(3)Mae is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i’r canlynol fel ei gilydd—
(a)achos pan na fyddai unrhyw golled wedi ei chofnodi oni bai am yr anghywirdeb, a
(b)achos pan fyddai swm gwahanol o golled wedi ei gofnodi (ond yn yr achos hwnnw nid yw is-adrannau (1) a (2) ond yn gymwys i’r gwahaniaeth rhwng y swm a gofnodwyd a’r gwir swm).
(4)Mae’r refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â cholled yn ddim pan na fo unrhyw obaith rhesymol, oherwydd natur y golled neu amgylchiadau’r person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno, y defnyddir y golled i gefnogi hawliad i ostwng rhwymedigaeth unrhyw berson i’r dreth honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 137 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I18A. 137 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Pan fo anghywirdeb wedi arwain at ddatgan swm o dreth ddatganoledig yn hwyrach nag y dylid (“y dreth oediedig”), y refeniw posibl a gollir yw—
(a)5% o’r dreth oediedig am bob blwyddyn o’r oedi;
(b)canran o’r dreth oediedig, ar gyfer pob cyfnod oedi o lai na blwyddyn, sy’n cyfateb i 5% y flwyddyn.
(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys i achos y mae adran 137 yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I20A. 138 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Caiff ACC ostwng cosb sy’n daladwy o dan y Bennod hon pan fo person yn gwneud datgeliad cymwys.
(2)Ystyr “datgeliad cymwys” yw datgelu—
(a)anghywirdeb sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig,
(b)bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig, F15...
(c)methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad â threth ddatganoledig,
[F16(d)anghywirdeb sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,
(e)bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth, neu
(f)methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad ag atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.]
(3)Mae person yn gwneud datgeliad cymwys drwy—
(a)dweud wrth ACC amdano,
(b)rhoi cymorth rhesymol i ACC wrth feintioli—
(i)yr anghywirdeb,
(ii)yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu gelu gwybodaeth, neu
(iii)y tanasesiad, ac
(c)caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben sicrhau bod—
(i)yr anghywirdeb,
(ii)yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth, neu
(iii)y tanasesiad,
yn cael ei gywiro’n llawn.
(4)Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—
(a)pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a
(b)ansawdd y datgeliad.
(5)Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—
(a)yn “ddigymell” os caiff ei wneud ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod neu ar fin darganfod yr anghywirdeb, bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu neu bod gwybodaeth wedi ei hatal, neu’r tanasesiad, a
(b)fel arall, “wedi ei gymell”.
(6)Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.
Diwygiadau Testunol
F15Gair yn a. 139(2) wedi ei hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 34(a)
F16A. 139(2)(d)-(f) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 34(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I22A. 139 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.
(2)Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—
(a)gallu i dalu, na
(b)y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.
(3)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—
(a)dileu cosb yn llwyr,
(b)gohirio cosb, ac
(c)cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.
(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at gosb yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw log mewn perthynas â chosb.
Gwybodaeth Cychwyn
I23A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I24A. 140 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—
(a)asesu’r gosb,
(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac
(c)datgan yn yr hysbysiad ar gyfer pa gyfnod [F17, trafodiad neu hawliad am gredyd treth] yr aseswyd y gosb.
(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad o dreth ddatganoledig.
(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 129 neu 132 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
(a)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer y penderfyniad sy’n cywiro’r anghywirdeb, neu
(b)os nad oes asesiad o’r dreth o dan sylw o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod y caiff yr anghywirdeb ei gywiro.
(4)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 133 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
(a)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad treth a oedd yn cywiro’r tanddatganiad, neu
(b)os nad oes asesiad sy’n cywiro’r tanddatganiad, â’r diwrnod y caiff y tanddatganiad ei gywiro.
(5)Yn is-adrannau (3) a (4), ystyr “cyfnod apelio” [F18yw]—
(a)os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a
(b)os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.
(6)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan y Bennod hon os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danddatganiad o’r refeniw posibl a gollir.
Diwygiadau Testunol
F17Geiriau yn a. 141(1)(c) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 35
F18Geiriau yn a. 141(5) wedi eu hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 51; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I25A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I26A. 141 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
Yn y Bennod hon—
(a)mae cyfeiriad at roi dogfen i ACC yn cynnwys—
(i)cyfeiriad at gyfleu gwybodaeth i ACC ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd (boed drwy’r post, ffacs, e-bost, ffôn neu fel arall), a
(ii)cyfeiriad at wneud datganiad mewn dogfen;
(b)mae cyfeiriad at ddychwelyd ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth yn cynnwys cyfeiriad at ddiwygio ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth ddiwygiedig;
(c)mae cyfeiriad at golled yn cynnwys cyfeiriad at dâl, traul, diffyg ac unrhyw swm arall a all fod ar gael ar gyfer didyniad neu [F19ryddhad], neu y gellir dibynnu arno er mwyn hawlio didyniad neu [F19ryddhad];
(d)mae cyfeiriad at weithred yn cynnwys cyfeiriad at anweithred.
Diwygiadau Testunol
F19Gair yn a. 142(c) wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 52; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I27A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I28A. 142 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: