RHAN 5COSBAU
PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU
Cosbau am anghywirdebau mewn dogfennau
I8I3129Cosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACC
1
Mae person yn agored i gosb pan fo—
a
y person yn rhoi dogfen i ACC, a
b
amodau 1 a 2 wedi eu bodloni.
2
Amod 1 yw bod y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb sy’n gyfystyr â’r canlynol, neu’n arwain at y canlynol—
a
tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,
b
datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F7...
c
hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig F5, neu
d
hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.
3
Amod 2 yw bod yr anghywirdeb yn fwriadol neu’n ddiofal ar ran y person.
4
Mae anghywirdeb yn ddiofal ar ran person os gellir ei briodoli i fethiant y person i gymryd gofal rhesymol.
5
Mae anghywirdeb nad oedd yn fwriadol nac yn ddiofal ar ran person pan roddwyd y ddogfen i’w drin fel un diofal—
a
os darganfu’r person yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a
b
os na chymerodd y person gamau rhesymol i roi gwybod i ACC.
6
Pan fo dogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amodau 1 a 2 mewn cysylltiad â hwy, mae’r person yn agored i gosb am bob anghywirdeb o’r fath.
I5I1130Swm y gosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACC
1
Y gosb am anghywirdeb bwriadol yw F4swm heb fod yn fwy na 100% o’r refeniw posibl a gollir.
2
Y gosb am anghywirdeb diofal yw F3swm heb fod yn fwy na 30% o’r refeniw posibl a gollir.
I6I2131Gohirio cosb am anghywirdeb diofal
1
Caiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb am anghywirdeb diofal o dan adran 129 drwy ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb.
2
Rhaid i’r hysbysiad bennu—
a
pa ran o’r gosb sydd i’w gohirio,
b
cyfnod gohirio nad yw’n hwy na 2 flynedd, ac
c
amodau gohirio y mae’n rhaid i’r person gydymffurfio â hwy.
3
Ni chaiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb oni fyddai cydymffurfio ag amod gohirio yn helpu’r person i osgoi dod yn agored i gosbau pellach o dan adran 129 am anghywirdeb diofal.
4
Caiff amod gohirio bennu—
a
cam sydd i’w gymryd, a
b
cyfnod ar gyfer cymryd y cam hwnnw.
5
Pan ddaw’r cyfnod gohirio i ben—
a
os yw’r person yn bodloni ACC y cydymffurfiwyd â’r amodau gohirio, caiff y gosb neu’r rhan a ohiriwyd ei chanslo, a
b
fel arall, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.
6
Os yw’r person, yn ystod cyfnod gohirio cosb gyfan neu ran o gosb sy’n daladwy o dan adran 129, yn dod yn agored i gosb arall o dan yr adran honno, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.
I4I7132Cosb am anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC gan berson arall
1
Mae person (y cyfeirir ato yn yr adran hon fel “person A”) yn agored i gosb pan fo—
a
person arall yn rhoi dogfen i ACC,
b
y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb perthnasol, ac
c
yr anghywirdeb i’w briodoli—
i
i berson A yn darparu gwybodaeth ffug i’r person arall yn fwriadol (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), neu
ii
i berson A yn atal gwybodaeth yn fwriadol rhag y person arall,
gyda’r bwriad bod y ddogfen yn cynnwys yr anghywirdeb.
2
Mae “anghywirdeb perthnasol” yn anghywirdeb sy’n gyfystyr ag, neu’n arwain at—
a
tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,
b
datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F2...
c
hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig F6, neu
d
hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.
3
Mae person A yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag anghywirdeb pa un a yw’r person arall yn agored i gosb ai peidio o dan adran 129 mewn perthynas â’r un anghywirdeb.
4
Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw F1 100% o’r refeniw posibl a gollir.