PENNOD 4LL+CCOSBAU SY’N YMWNEUD Â CHADW COFNODION A THREFNIADAU TALU’N ÔL
Cosb am fethu â chadw cofnodion mewn cysylltiad â ffurflenni neu hawliadau treth a’u storio’n ddiogelLL+C
143Cosb am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C
(1)Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 [F1, 38A] neu 69 yn agored i gosb heb fod yn fwy na £3,000.
(2)Ond nid oes unrhyw gosb i’w thalu os yw ACC yn fodlon bod unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi, ac y byddai’r cofnodion wedi eu profi, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 143(1) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 53; O.S. 2018/34, ergl. 3
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 143-145 cymhwyswyd (1.4.2018) gan Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Trefniadau Talu’n Ôl) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/88), rhlau. 1(2), 8(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 143 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 143 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
144Esgus rhesymol am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C
(1)Os yw person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 [F2, 38A] neu 69 yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y methiant, nid oes unrhyw rwymedigaeth i gosb o dan adran 143 mewn perthynas â’r methiant.
(2)At ddibenion is-adran (1)—
(a)nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;
(b)pan fo’r person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;
(c)os oedd gan y person esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn a. 144(1) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 54; O.S. 2018/34, ergl. 3
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 143-145 cymhwyswyd (1.4.2018) gan Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Trefniadau Talu’n Ôl) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/88), rhlau. 1(2), 8(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 144 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I4A. 144 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
145Asesu cosbau o dan adran 143LL+C
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 143, rhaid i ACC—
(a)asesu’r gosb, a
(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.
(2)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 143 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person wedi methu â chydymffurfio ag adran 38 [F3, 38A] neu 69.
Diwygiadau Testunol
F3Gair yn a. 145(2) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 55; O.S. 2018/34, ergl. 3
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 143-145 cymhwyswyd (1.4.2018) gan Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Trefniadau Talu’n Ôl) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/88), rhlau. 1(2), 8(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 145 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I6A. 145 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3