RHAN 5COSBAU
PENNOD 7ATODOL
I4I3155Gwahardd cosbi ddwywaith
Nid yw person yn agored i gosb o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi ei gollfarnu o drosedd mewn perthynas â hynny.
I2I1156Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbau
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth (neu ddarpariaeth bellach) ynghylch—
a
symiau cosbau o dan y Rhan hon;
b
y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan y Rhan hon.
2
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).
3
Ni chaiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon fod yn gymwys—
a
i fethiant sy’n dechrau cyn y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym, neu
b
i anghywirdeb mewn unrhyw wybodaeth neu ddogfen a ddarparwyd i ACC cyn y diwrnod hwnnw.