RHAN 7TALU A GORFODI

Talu

I1164Ystyr “swm perthnasol”

Yn y Rhan hon, ystyr “swm perthnasol” yw—

a

treth ddatganoledig;

b

llog ar dreth ddatganoledig;

c

cosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;

d

llog ar gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig.

Annotations:
Commencement Information
I1

A. 164 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2165Symiau perthnasol yn daladwy i ACC

Mae unrhyw swm perthnasol sy’n dod yn daladwy (boed o dan ddeddfiad neu o dan setliad contract) yn daladwy i ACC.

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 165 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I3166Derbynebau am daliad

Pan delir swm perthnasol i ACC, rhaid i ACC roi derbynneb os gofynnir iddo wneud hynny.

Annotations:
Commencement Information
I3

A. 166 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4I8167Ffioedd talu

1

Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod rhaid i berson sy’n talu swm perthnasol i ACC gan ddefnyddio dull talu a ragnodir gan y rheoliadau, hefyd dalu ffi a ragnodir gan y rheoliadau neu a bennir yn unol â hwy.

2

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y mae’n rhaid talu’r ffi.

Ardystio dyled

I5168Tystysgrifau dyled

1

Mae tystysgrif gan ACC nad yw swm perthnasol wedi ei dalu i ACC yn dystiolaeth ddigonol nad yw’r swm wedi ei dalu oni phrofir i’r gwrthwyneb.

2

Mae dogfen yr honnir ei bod yn dystysgrif o’r fath i’w thrin fel pe bai’n dystysgrif o’r fath oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Annotations:
Commencement Information
I5

A. 168 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

Adennill

I6169Achos yn llys yr ynadon

1

Pan fo swm perthnasol yn daladwy gan berson ac nad yw’n fwy na £2,000, mae i’w adennill fel dyled sifil drwy broses ynadol.

2

Caniateir cynnwys pob un neu unrhyw un neu ragor o’r symiau sydd i’w hadennill o dan yr adran hon sy’n daladwy gan unrhyw un person o fewn yr un gŵyn, wŷs, neu ddogfen arall y mae’n ofynnol ei gosod gerbron ynad heddwch neu ei dyroddi ganddo.

3

Mae pob dogfen o’r fath i’w thrin, mewn cysylltiad â phob swm, fel dogfen ar wahân ac nid yw ei hannilysrwydd mewn cysylltiad ag un swm yn effeithio ar ei dilysrwydd mewn cysylltiad ag unrhyw swm arall.

4

O ran swm perthnasol sy’n dreth ddatganoledig neu’n gosb, caniateir dwyn achos o dan yr adran hon o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol talu’r dreth ddatganoledig neu’r gosb arno neu’n gynharach.

5

O ran swm perthnasol sy’n llog ar dreth ddatganoledig neu ar gosb, caniateir dwyn achos o dan yr adran hon o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol talu’r dreth ddatganoledig neu’r gosb arno neu’n gynharach.

6

Caiff Gweinidogion Cymru gynyddu’r swm a bennir yn is-adran (1) drwy reoliadau.

Annotations:
Commencement Information
I6

A. 169 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I7170Gorfodi drwy atafaelu nwyddau

1

Os nad yw person yn talu swm perthnasol i ACC sy’n daladwy gan y person, caiff ACC ddilyn y weithdrefn yn Atodlen 12 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (atafaelu nwyddau) er mwyn adennill y swm hwnnw.

2

Yn adran 63(3) o’r Ddeddf honno (asiantau gorfodi), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

ba

a person authorised to use the procedure in Schedule 12 by the Welsh Revenue Authority (or by a person to whom the Welsh Revenue Authority has delegated the function of authorising the use of the procedure);