Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

RHAN 7LL+CTALU A GORFODI

TaluLL+C

164Ystyr “swm perthnasol”LL+C

Yn y Rhan hon, ystyr “swm perthnasol” yw—

(a)treth ddatganoledig;

(b)llog ar dreth ddatganoledig;

(c)cosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;

(d)llog ar gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;

[F1(e)swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;

(f)llog ar swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 164 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 164 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(h)

165Symiau perthnasol yn daladwy i ACCLL+C

Mae unrhyw swm perthnasol sy’n dod yn daladwy (boed o dan ddeddfiad neu o dan setliad contract) yn daladwy i ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 165 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 165 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(h)

166Derbynebau am daliadLL+C

Pan delir swm perthnasol i ACC, rhaid i ACC roi derbynneb os gofynnir iddo wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 166 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 166 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(h)

167Ffioedd taluLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod rhaid i berson sy’n talu swm perthnasol i ACC gan ddefnyddio dull talu a ragnodir gan y rheoliadau, hefyd dalu ffi a ragnodir gan y rheoliadau neu a bennir yn unol â hwy.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y mae’n rhaid talu’r ffi.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 167 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I8A. 167 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Ardystio dyledLL+C

168Tystysgrifau dyledLL+C

(1)Mae tystysgrif gan ACC nad yw swm perthnasol wedi ei dalu i ACC yn dystiolaeth ddigonol nad yw’r swm wedi ei dalu oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(2)Mae dogfen yr honnir ei bod yn dystysgrif o’r fath i’w thrin fel pe bai’n dystysgrif o’r fath oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 168 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I10A. 168 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(h)

AdennillLL+C

169Achos yn llys yr ynadonLL+C

(1)Pan fo swm perthnasol yn daladwy gan berson ac nad yw’n fwy na £2,000, mae i’w adennill fel dyled sifil drwy broses ynadol.

(2)Caniateir cynnwys pob un neu unrhyw un neu ragor o’r symiau sydd i’w hadennill o dan yr adran hon sy’n daladwy gan unrhyw un person o fewn yr un gŵyn, wŷs, neu ddogfen arall y mae’n ofynnol ei gosod gerbron ynad heddwch neu ei dyroddi ganddo.

(3)Mae pob dogfen o’r fath i’w thrin, mewn cysylltiad â phob swm, fel dogfen ar wahân ac nid yw ei hannilysrwydd mewn cysylltiad ag un swm yn effeithio ar ei dilysrwydd mewn cysylltiad ag unrhyw swm arall.

(4)O ran swm perthnasol sy’n dreth ddatganoledig neu’n gosb [F2neu’n swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth], caniateir dwyn achos o dan yr adran hon o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol talu’r dreth ddatganoledig [F3, y gosb neu’r swm arall] arno neu’n gynharach.

(5)O ran swm perthnasol sy’n llog ar dreth ddatganoledig neu ar gosb [F4neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth], caniateir dwyn achos o dan yr adran hon o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol talu’r dreth ddatganoledig [F5, y gosb neu’r swm arall] arno neu’n gynharach.

[F6(5A)Pan fo swm perthnasol yn cynnwys swm o dreth trafodiadau tir y mae ACC wedi cytuno y gellir gohirio ei dalu, rhaid anwybyddu unrhyw gyfnod gohirio mewn cysylltiad â’r swm hwnnw (fel y’i pennir o dan Bennod 3 o Ran 6 o DTTT) wrth gyfrifo’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato yn is-adran (4) neu (5).

(5B)Pan fo swm perthnasol yn cynnwys swm a gaiff ei drin fel swm gohiriedig yn rhinwedd adran 181G, rhaid anwybyddu unrhyw gyfnod gohirio mewn cysylltiad â’r swm hwnnw (fel y’i pennir o dan yr adran honno) wrth gyfrifo’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato yn is-adran (4) neu (5).]

(6)Caiff Gweinidogion Cymru gynyddu’r swm a bennir yn is-adran (1) drwy reoliadau.

170Gorfodi drwy atafaelu nwyddauLL+C

(1)Os nad yw person yn talu swm perthnasol i ACC sy’n daladwy gan y person, caiff ACC ddilyn y weithdrefn yn Atodlen 12 i [F7DTLlG] (atafaelu nwyddau) er mwyn adennill y swm hwnnw.

(2)Yn adran 63(3) o’r Ddeddf honno (asiantau gorfodi), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)a person authorised to use the procedure in Schedule 12 by the Welsh Revenue Authority (or by a person to whom the Welsh Revenue Authority has delegated the function of authorising the use of the procedure);.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 170 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I14A. 170 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(h)