PENNOD 2LL+CADOLYGIADAU
173Gofyn am adolygiadLL+C
(1)Rhaid gwneud cais i adolygu penderfyniad apeliadwy drwy roi hysbysiad (“hysbysiad am gais”) i ACC.
(2)Rhaid i hysbysiad am gais nodi’r sail ar gyfer yr adolygiad.
(3)Ond ni chaiff person roi hysbysiad am gais os yw is-adran (4), (5) neu (6) yn gymwys.
(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os penderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo yw’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno i ACC ei adolygu, a
(b)os nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau hyd yma.
(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person wedi apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad ac nad yw’r apêl wedi ei thynnu’n ôl.
(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)pan fo’r person wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno i ACC ei adolygu, a
(b)pan na fo’r person wedi rhoi hysbysiad tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4).
(7)Nid yw’r adran hon yn rhwystro ymdrin â phenderfyniad apeliadwy yn unol ag adran 184.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 173 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)
174Terfyn amser ar gyfer gofyn am adolygiadLL+C
(1)Pan roddir hysbysiad am gais i ACC cyn diwedd y cyfnod perthnasol, rhaid i ACC adolygu’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), y cyfnod perthnasol yw—
(a)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad cau sy’n hysbysu’r person fod yr ymholiad wedi ei gwblhau;
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad o unrhyw fath arall, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad sy’n hysbysu’r person am y penderfyniad.
(3)Pan fo’r person—
(a)wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn cysylltiad â’r penderfyniad y mae’r cais yn ymwneud ag ef, ond
(b)wedi rhoi hysbysiad wedi hynny ei fod yn tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4),
y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad tynnu’n ôl.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 174 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I4A. 174 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)
175Cais hwyr am adolygiadLL+C
(1)Pan fo person yn rhoi hysbysiad am gais i ACC ar ôl y cyfnod perthnasol—
(a)caiff ACC adolygu’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a
(b)rhaid iddo wneud hynny os yw’n fodlon—
(i)bod gan y person esgus rhesymol dros beidio â’i roi yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(ii)ei fod wedi ei roi i ACC wedyn heb oedi afresymol.
(2)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person yn datgan a fydd yn adolygu’r penderfyniad ai peidio.
(3)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn datgan na fydd yn adolygu’r penderfyniad, caiff y person wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gynnal yr adolygiad.
(4)Caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddyd o’r fath, a rhaid iddo wneud hynny os yw’n fodlon—
(a)bod gan y ceisydd esgus rhesymol dros beidio â rhoi hysbysiad am y cais i ACC yn ystod y cyfnod perthnasol,
(b)ei fod wedi ei roi i ACC wedyn heb oedi afresymol, ac yna
(c)ei fod wedi gwneud cais i’r tribiwnlys heb oedi afresymol.
(5)Yn yr adran hon, mae i “y cyfnod perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 174.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 175 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I6A. 175 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)
176Cynnal adolygiadLL+C
(1)Mae natur a chwmpas yr adolygiad i fod fel ag y maent yn ymddangos yn briodol i ACC o dan yr amgylchiadau.
(2)At ddiben is-adran (1), rhaid i ACC, yn benodol, roi sylw i gamau a gymerwyd cyn dechrau’r adolygiad—
(a)gan ACC wrth ddod i’r penderfyniad, a
(b)gan unrhyw berson wrth geisio datrys anghytundeb ynghylch y penderfyniad.
(3)Rhaid i’r adolygiad ystyried unrhyw sylwadau a wneir neu a wnaed gan y person a roddodd yr hysbysiad am gais ar adeg sy’n rhoi cyfle rhesymol i ACC eu hystyried.
(4)Caiff yr adolygiad ddod i’r casgliad bod penderfyniad ACC—
(a)i’w gadarnhau,
(b)i’w amrywio, neu
(c)i’w ganslo.
(5)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad i’r person a roddodd yr hysbysiad am gais—
(a)o fewn y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y derbyniodd ACC yr hysbysiad am gais, neu
(b)o fewn unrhyw gyfnod arall y bydd ACC a’r person yn cytuno arno.
(6)Pan fo’r tribiwnlys yn cyfarwyddo ACC i gynnal adolygiad, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad—
(a)o fewn y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y tribiwnlys y cyfarwyddyd, neu
(b)o fewn unrhyw gyfnod arall y bydd ACC a’r person yn cytuno arno.
(7)Os yw ACC yn methu â dyroddi hysbysiad yn unol ag is-adran (5) neu (6)—
(a)bernir bod yr adolygiad wedi dod i’r casgliad bod penderfyniad ACC i’w gadarnhau, a
(b)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r person a roddodd yr hysbysiad am gais.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 176 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I8A. 176 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)
177Effaith casgliadau adolygiadLL+C
(1)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 176(5), (6) neu (7) mewn perthynas ag adolygiad—
(a)mae’r casgliadau yn yr hysbysiad i’w trin fel pe bai’r tribiwnlys wedi dyfarnu apêl yn erbyn y penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn y modd a nodir yn y casgliadau, ond
(b)nid yw’r casgliadau i’w trin fel penderfyniad gan y tribiwnlys at ddibenion adrannau 9 i 13 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (adolygu penderfyniadau ac apelau yn erbyn penderfyniadau).
(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r canlynol yn berthnasol, neu i’r graddau y mae’r canlynol yn berthnasol—
(a)bod ACC a’r person yn ymrwymo wedi hynny i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu
(b)bod y tribiwnlys yn dyfarnu wedi hynny ar apêl yn erbyn y penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I10A. 177 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)