RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU

PENNOD 4AMRYWIOL AC ATODOL

Canlyniadau adolygiadau ac apelau

I5I6182Talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl

1

Mae’r adran hon yn gymwys i benderfyniad sy’n ymwneud â chosb y gallai person fod yn agored iddi.

2

Pan fo ACC yn cynnal adolygiad mewn cysylltiad â’r penderfyniad, nid yw F2dyddiad talu arferol y gosb yn gymwys i unrhyw swm o gosb y mae anghydfod yn ei gylch (“swm y mae anghydfod yn ei gylch”).

3

Pan fo’r adolygiad yn dod i’r casgliad bod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person o dan adran 176(5) F7, (6) neu (7) mewn perthynas â’r adolygiad; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (4).

4

Pan fo’r person yn gwneud apêl mewn cysylltiad â’r penderfyniad—

a

nid yw F1dyddiad talu arferol y gosb yn gymwys i unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, a

b

nid yw is-adran (3) yn gymwys.

5

Pan fo’r apêl yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r person dalu—

a

unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, os nad yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, neu

b

os yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch y daeth yr adolygiad i’r casgliad ei fod yn daladwy,

cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod tynnu’n ôl.

6

Pan ddyfernir yn derfynol, o ganlyniad i’r apêl, fod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.

F47

Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad talu arferol y gosb” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu cosb o dan—

a

adran 154, neu

b

adran 70 o DTGT.

I2I3183Penderfynu ar adolygiadau ac apelau mewn cysylltiad â hysbysiadau gwybodaeth

1

Pan fo casgliadau adolygiad o dan adran 176 yn cadarnhau neu’n amrywio penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu ofyniad mewn hysbysiad o’r fath, rhaid i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad (fel y’i cadarnhawyd neu y’i hamrywiwyd) o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan ACC.

2

Pan fo’r tribiwnlys yn cadarnhau neu’n amrywio penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad mewn hysbysiad o’r fath, rhaid i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad (fel y’i cadarnhawyd neu y’i hamrywiwyd)—

a

o fewn y cyfnod a bennir gan y tribiwnlys, neu

b

os nad yw’r tribiwnlys yn pennu cyfnod, o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan ACC.

183AF6Atal ad-daliad pan fo apêl bellach yn yr arfaeth

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

a

ar apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, y tribiwnlys yn dyfarnu

F3i

bod ACC i ad-dalu swm o dreth ddatganoledig a dalwyd gan berson, F5neu

ii

bod swm a dalwyd gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth i’w ad-dalu gan ACC,

b

ACC yn gwneud cais o dan adran 11(4) neu 13(4) o DTLlG am ganiatâd i wneud apêl bellach.

2

Wrth wneud cais am ganiatâd caiff ACC ofyn am ganiatâd y tribiwnlys i ohirio ad-dalu’r swm hyd—

a

y dyfernir ar yr apêl bellach, neu

b

y mae ACC yn cael sicrhad digonol ar gyfer y swm.

3

Rhaid i’r tribiwnlys neu’r llys perthnasol ganiatáu cais ACC—

a

os yw’n rhoi caniatâd i’r apêl bellach gael ei chynnal, a

b

os yw’n credu bod angen caniatáu’r cais er mwyn diogelu’r refeniw.

4

Os na roddir caniatâd i wneud apêl bellach—

a

gan Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn dilyn cais o dan adran 11(4)(a) o DTLlG, neu

b

gan yr Uwch Dribiwnlys yn dilyn cais o dan adran 13(4)(a) o’r Ddeddf honno,

nid yw’r ffaith fod ACC wedi gwneud cais o dan is-adran (2) wrth wneud y cais am ganiatâd yn rhwystro ACC rhag gwneud cais arall o dan yr is-adran honno os yw ACC yn gwneud cais am ganiatâd i wneud apêl bellach o dan adran 11(4)(b) neu 13(4)(b) o DTLlG.

5

Ond fel arall, mae penderfyniad y tribiwnlys neu’r llys perthnasol ynglŷn â chais o dan adran (2) yn derfynol.

6

Yn yr adran hon—

  • ystyr “tribiwnlys neu lys perthnasol” (“relevant tribunal or court”) yw pa un bynnag o’r canlynol y mae ACC yn gwneud cais iddo am ganiatâd i wneud apêl bellach—

    1. a

      Tribiwnlys yr Haen Gyntaf;

    2. b

      yr Uwch Dribiwnlys;

    3. c

      y llys apeliadol perthnasol;

  • ystyr “llys apeliadol perthnasol” (“relevant appellate court”) yw’r llys a bennir felly o dan adran 13(11) o DTLlG.

Cytundebau setlo

I1I4184Setlo anghydfodau drwy gytundeb

1

Ystyr “cytundeb setlo” yw cytundeb rhwng person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo (“person perthnasol”) ac ACC fod y penderfyniad—

a

i’w gadarnhau,

b

i’w amrywio, neu

c

i’w ganslo.

2

Pan fo person perthnasol ac ACC yn ymrwymo i gytundeb setlo, mae’r canlyniadau i fod yr un fath â phe bai’r tribiwnlys, ar yr adeg yr ymrwymwyd i’r cytundeb, wedi dyfarnu ar apêl yn erbyn y penderfyniad apeliadwy yn y modd a nodir yn y cytundeb.

3

Ond nid yw cytundeb setlo i’w drin fel un o benderfyniadau’r tribiwnlys at ddibenion adrannau 9 i 13 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (adolygiad o benderfyniadau ac apelau yn erbyn penderfyniadau).

4

Nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r person perthnasol, o fewn 30 o ddiwrnodau i’r diwrnod yr ymrwymwyd i’r cytundeb setlo, yn rhoi hysbysiad i ACC fod y person yn dymuno tynnu’n ôl o’r cytundeb.

5

Nid yw is-adran (2) yn gymwys i gytundeb setlo nad yw mewn ysgrifen onid yw’r ffaith yr ymrwymwyd i’r cytundeb, a’r telerau y cytunwyd arnynt, yn cael eu cadarnhau drwy hysbysiad a ddyroddir i’r person perthnasol gan ACC.

6

Pan ddyroddir hysbysiad yn unol ag is-adran (5), mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (2) a (4) at yr adeg yr ymrwymir i’r cytundeb setlo i’w trin fel cyfeiriadau at yr adeg y dyroddir yr hysbysiad.

7

Ni chaiff person perthnasol ac ACC ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â phenderfyniad apeliadwy os yw apêl yn erbyn y penderfyniad wedi ei dyfarnu yn derfynol.