RHAN 1TROSOLWG
I11Trosolwg o’r Ddeddf
Mae’r Ddeddf hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
a
mae Rhan 2 yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei drefniadaeth a’i brif swyddogaethau;
b
mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu trethi datganoledig;
c
mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch pwerau ymchwilio Awdurdod Cyllid Cymru, gan gynnwys darpariaeth ynghylch hysbysiadau sy’n gwneud gwybodaeth yn ofynnol ac ynghylch archwilio mangreoedd;
d
mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosbau mewn perthynas â threthi datganoledig, ac mewn cysylltiad â hynny;
e
mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth i log fod yn daladwy ar daliadau hwyr i Awdurdod Cyllid Cymru ac ar ad-daliadau gan Awdurdod Cyllid Cymru;
f
mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch taliadau i Awdurdod Cyllid Cymru ac adennill symiau nas talwyd;
g
mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau o benderfyniadau Awdurdod Cyllid Cymru ac apelau yn eu herbyn, ac mewn cysylltiad â hynny;
h
mae Rhan 9 yn rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth ynghylch ymchwilio i droseddau sy’n ymwneud â threthi datganoledig;
i
mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.