RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 3CYFYNGIADAU AR BWERAU PENNOD 2
I1101Diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig rhwng cynghorwyr cyfreithiol a chleientiaid
1
Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson—
a
darparu gwybodaeth freintiedig, na
b
cyflwyno unrhyw ran freintiedig o ddogfen.
2
Mae gwybodaeth neu ddogfen yn freintiedig pe gellid cynnal hawliad ar gyfer braint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi mewn achos cyfreithiol.
I23
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth i’r tribiwnlys ddatrys unrhyw anghydfod o ran a yw unrhyw wybodaeth neu ddogfen yn freintiedig.
I24
Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ar gyfer cadw dogfen tra dyfernir ei statws.