RHAN 4LL+CPWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 4LL+CARCHWILIO MANGREOEDD AC EIDDO ARALL

[F1104Cynnal archwiliadau o dan adran 103 [F2, 103A neu 103B] : darpariaeth bellachLL+C

(1)Wrth gynnal archwiliad o dan adran 103, [F3103A neu 103B,] mae gan ACC y pwerau a ganlyn.

(2)Wrth fynd i’r fangre F4..., caiff ACC

(a)os oes ganddo sail dros gredu y caiff ei rwystro’n ddifrifol wrth gynnal yr archwiliad, gael cwnstabl yno gydag ef, a

(b)cael person a awdurdodwyd gan ACC yno gydag ef.

(3)Caiff ACC wneud unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae’n ystyried bod ei angen o dan yr amgylchiadau.

(4)Caiff ACC roi cyfarwyddyd bod y fangre, neu unrhyw ran ohoni, neu unrhyw beth sydd ynddi, i’w gadael neu i’w adael yn union fel y mae (naill ai yn gyffredinol neu o ran agweddau penodol) cyhyd ag y bo angen at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o’r fath.

(5)Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, gymryd samplau o ddeunydd o’r fangre.

(6)Mae’r pŵer i gymryd samplau yn cynnwys pŵer—

(a)i dyllu tyllau arbrofol neu i wneud gwaith arall yn y fangre, a

(b)i osod, i gadw neu i gynnal cyfarpar monitro a chyfarpar arall yn y fangre.

(7)Rhaid cael gwared ag unrhyw sampl a gymerir o dan is-adran (5) mewn unrhyw fodd a bennir gan ACC.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 104 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)