RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 4ARCHWILIO MANGREOEDD AC EIDDO ARALL
I1108Cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre
1
Caiff ACC ofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo—
a
archwiliad o dan adran 103 neu 106, neu
b
arfer pwerau o dan adran 104 neu 105 mewn perthynas ag archwiliad o dan adran 103 y mae meddiannydd y fangre wedi cytuno iddo.
2
Mae cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwiliad o dan adran 103 yn cynnwys cymeradwyo arfer y pwerau o dan adran 104 neu 105 yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan y tribiwnlys wrth gymeradwyo’r archwiliad.
3
Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth o dan is-adran (1) heb anfon hysbysiad am y cais at—
a
y person y mae ei sefyllfa dreth yn destun yr archwiliad arfaethedig, neu
b
meddiannydd y fangre.
4
Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adran 103—
a
oni fo’n fodlon bod gan ACC sail dros gredu bod angen archwilio’r fangre busnes at ddiben gwirio sefyllfa dreth person, a
b
os gwnaed y cais am gymeradwyaeth heb roi hysbysiad, oni fo’n fodlon y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.
5
Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adran 106 oni fo’n fodlon bod angen yr archwiliad at ddiben gwirio sefyllfa dreth unrhyw berson ac—
a
os gwnaed y cais am gymeradwyaeth heb roi hysbysiad, ei fod yn fodlon y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig, neu
b
mewn unrhyw achos arall—
i
y rhoddwyd cyfle rhesymol i’r person y mae ei sefyllfa dreth yn destun yr archwiliad arfaethedig wneud sylwadau i ACC ynghylch yr archwiliad,
ii
y rhoddwyd cyfle rhesymol i feddiannydd y fangre wneud sylwadau o’r fath, a
iii
y darparwyd crynodeb i’r tribiwnlys o unrhyw sylwadau a wnaed.
6
Nid yw is-adran (5)(b)(ii) yn gymwys os yw’r tribiwnlys yn fodlon na ellir dweud pwy yw meddiannydd y fangre.
7
Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo archwiliad o dan is-adran (1)(a) neu wedi cymeradwyo arfer pŵer o dan is-adran (1)(b) rhaid i ACC gynnal yr archwiliad neu arfer y pŵer—
a
yn ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y diwrnod y rhoddodd y tribiwnlys ei gymeradwyaeth, neu
b
o fewn unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y tribiwnlys wrth roi’r gymeradwyaeth.