RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 5PWERAU YMCHWILIO PELLACH
I1I2112Pŵer i gopïo dogfennau a mynd â dogfennau ymaith
1
Pan fo ACC yn archwilio dogfen neu pan gyflwynir dogfen gan berson, caiff ACC wneud copïau o’r ddogfen neu gymryd dyfyniadau ohoni.
2
Pan fo ACC yn archwilio dogfen neu pan gyflwynir dogfen gan berson, caiff ACC—
a
mynd â’r ddogfen ymaith ar adeg resymol, a
b
cadw’r ddogfen am gyfnod rhesymol,
os ymddengys i ACC bod angen gwneud hynny.
3
Pan fo ACC yn mynd â dogfen ymaith, rhaid i ACC ddarparu yn ddi-dâl—
a
derbynneb ar gyfer y ddogfen, a
b
copi o’r ddogfen,
os gofynna’r person yr oedd y ddogfen yn ei feddiant, neu a oedd â phŵer dros y ddogfen, pan gyflwynwyd neu pan archwiliwyd hi.
4
Nid yw mynd â dogfen ymaith o dan is-adran (2)(a) i’w ystyried fel torri unrhyw hawlrwym a hawlir ar y ddogfen.
5
Pan fo dogfen yr aed â hi ymaith o dan is-adran (2)(a) yn cael ei cholli neu ei niweidio cyn ei dychwelyd, mae ACC yn agored i ddigolledu perchennog y ddogfen am unrhyw dreuliau yr aed iddynt yn rhesymol wrth gael dogfen arall yn ei lle neu wrth ei hatgyweirio.
6
Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at ddogfen yn cynnwys copi o’r ddogfen.