RHAN 5LL+CCOSBAU

PENNOD 2LL+CCOSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH [F1NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH]

Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen drethLL+C

121Gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgeluLL+C

(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan adran 118, [F2118A,] 119 neu 120 os yw’r person yn datgelu gwybodaeth sydd wedi ei hatal o ganlyniad i fethiant i ddychwelyd ffurflen dreth (“gwybodaeth berthnasol”).

(2)Mae person yn datgelu gwybodaeth berthnasol drwy—

(a)dweud wrth ACC amdani,

(b)rhoi cymorth rhesymol i ACC feintioli unrhyw dreth ddatganoledig nas talwyd oherwydd i’r wybodaeth gael ei hatal, ac

(c)caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben gwirio faint o dreth ddatganoledig nas talwyd fel hyn.

(3)Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—

(a)pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a

(b)ansawdd y datgeliad.

(4)Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—

(a)yn “ddigymell” os gwneir hynny ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod yr wybodaeth berthnasol neu ei fod ar fin ei darganfod, a

(b)fel arall, “wedi ei gymell”.

(5)Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 121 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3