121Gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgeluLL+C
(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan adran 118, [F1118A,] 119 neu 120 os yw’r person yn datgelu gwybodaeth sydd wedi ei hatal o ganlyniad i fethiant i ddychwelyd ffurflen dreth (“gwybodaeth berthnasol”).
(2)Mae person yn datgelu gwybodaeth berthnasol drwy—
(a)dweud wrth ACC amdani,
(b)rhoi cymorth rhesymol i ACC feintioli unrhyw dreth ddatganoledig nas talwyd oherwydd i’r wybodaeth gael ei hatal, ac
(c)caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben gwirio faint o dreth ddatganoledig nas talwyd fel hyn.
(3)Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—
(a)pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a
(b)ansawdd y datgeliad.
(4)Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—
(a)yn “ddigymell” os gwneir hynny ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod yr wybodaeth berthnasol neu ei fod ar fin ei darganfod, a
(b)fel arall, “wedi ei gymell”.
(5)Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 121(1) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 10; O.S. 2018/35, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 121 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3