RHAN 5COSBAU

PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH F3NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH

Annotations:
Amendments (Textual)

Cosb am fethu â thalu treth

122AF1Cosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn agored i gosb o dan adran 122 F2neu 122ZA mewn cysylltiad â methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.

2

Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i gosb bellach.

3

Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.

4

Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i ail gosb bellach.

5

Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.