Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

128Terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2LL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid asesu cosb o dan y Bennod hon F1... ar neu cyn y diweddaraf o ddyddiad A a (pan fo’n gymwys) dyddiad B.

(2)Dyddiad A yw diwrnod olaf y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau—

(a)yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth, â’r dyddiad ffeilio, F2...

(b)yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig, â’r dyddiad cosbi [F3, neu

(c)yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, â’r dyddiad cosbi.]

(3)Dyddiad B yw diwrnod olaf y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth—

(i)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, neu

(ii)os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y caiff y rhwymedigaeth honno ei chanfod neu’r dyddiad y canfyddir mai dim yw’r rhwymedigaeth;

(b)yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig—

(i)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef, neu

(ii)os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y canfyddir y swm hwnnw o dreth ddatganoledig.

[F4(c)yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o’r swm yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef.]

(4)Yn is-adran (2)(b), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran [F5122(3)].

[F6(4A)Yn is-adran (2)(c), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 123A(3).]

(5)Yn is-adran (3) F7..., ystyr “cyfnod apelio” [F8yw]

(a)os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a

(b)os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 128 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3