RHAN 5COSBAU

PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU

Cosbau am anghywirdebau mewn dogfennau

I2I1129Cosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACC

1

Mae person yn agored i gosb pan fo—

a

y person yn rhoi dogfen i ACC, a

b

amodau 1 a 2 wedi eu bodloni.

2

Amod 1 yw bod y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb sy’n gyfystyr â’r canlynol, neu’n arwain at y canlynol—

a

tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,

b

datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F2...

c

hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig F1, neu

d

hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.

3

Amod 2 yw bod yr anghywirdeb yn fwriadol neu’n ddiofal ar ran y person.

4

Mae anghywirdeb yn ddiofal ar ran person os gellir ei briodoli i fethiant y person i gymryd gofal rhesymol.

5

Mae anghywirdeb nad oedd yn fwriadol nac yn ddiofal ar ran person pan roddwyd y ddogfen i’w drin fel un diofal—

a

os darganfu’r person yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a

b

os na chymerodd y person gamau rhesymol i roi gwybod i ACC.

6

Pan fo dogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amodau 1 a 2 mewn cysylltiad â hwy, mae’r person yn agored i gosb am bob anghywirdeb o’r fath.