13Awdurdodiad mewnol i gyflawni swyddogaethauLL+C
(1)Caiff ACC awdurdodi’r canlynol i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (i unrhyw raddau)—
(a)aelod o ACC,
(b)pwyllgor o ACC neu is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath, neu
(c)prif weithredwr ACC neu unrhyw aelod arall o staff ACC.
(2)Ond ni chaiff ACC awdurdodi pwyllgor neu is-bwyllgor i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (i unrhyw raddau) oni bai bod o leiaf un o aelodau’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor yn aelod anweithredol o ACC.
(3)Nid yw’r awdurdodiad i gyflawni swyddogaeth o dan yr adran hon yn effeithio ar—
(a)gallu ACC i arfer y swyddogaeth, na
(b)cyfrifoldeb ACC dros arfer y swyddogaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 13 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2