131Gohirio cosb am anghywirdeb diofalLL+C
(1)Caiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb am anghywirdeb diofal o dan adran 129 drwy ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb.
(2)Rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a)pa ran o’r gosb sydd i’w gohirio,
(b)cyfnod gohirio nad yw’n hwy na 2 flynedd, ac
(c)amodau gohirio y mae’n rhaid i’r person gydymffurfio â hwy.
(3)Ni chaiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb oni fyddai cydymffurfio ag amod gohirio yn helpu’r person i osgoi dod yn agored i gosbau pellach o dan adran 129 am anghywirdeb diofal.
(4)Caiff amod gohirio bennu—
(a)cam sydd i’w gymryd, a
(b)cyfnod ar gyfer cymryd y cam hwnnw.
(5)Pan ddaw’r cyfnod gohirio i ben—
(a)os yw’r person yn bodloni ACC y cydymffurfiwyd â’r amodau gohirio, caiff y gosb neu’r rhan a ohiriwyd ei chanslo, a
(b)fel arall, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.
(6)Os yw’r person, yn ystod cyfnod gohirio cosb gyfan neu ran o gosb sy’n daladwy o dan adran 129, yn dod yn agored i gosb arall o dan yr adran honno, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 131 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3