RHAN 5COSBAU

PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU

Cosbau am anghywirdebau mewn dogfennau

132Cosb am anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC gan berson arall

(1)

Mae person (y cyfeirir ato yn yr adran hon fel “person A”) yn agored i gosb pan fo—

(a)

person arall yn rhoi dogfen i ACC,

(b)

y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb perthnasol, ac

(c)

yr anghywirdeb i’w briodoli—

(i)

i berson A yn darparu gwybodaeth ffug i’r person arall yn fwriadol (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), neu

(ii)

i berson A yn atal gwybodaeth yn fwriadol rhag y person arall,

gyda’r bwriad bod y ddogfen yn cynnwys yr anghywirdeb.

(2)

Mae “anghywirdeb perthnasol” yn anghywirdeb sy’n gyfystyr ag, neu’n arwain at—

(a)

tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,

(b)

datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, neu

(c)

hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig.

(3)

Mae person A yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag anghywirdeb pa un a yw’r person arall yn agored i gosb ai peidio o dan adran 129 mewn perthynas â’r un anghywirdeb.

(4)

Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw 100% o’r refeniw posibl a gollir.