RHAN 5COSBAU
PENNOD 4COSBAU SY’N YMWNEUD Â CHADW COFNODION A THREFNIADAU TALU’N ÔL
Cosb am fethu â chadw cofnodion mewn cysylltiad â ffurflenni neu hawliadau treth a’u storio’n ddiogel
143Cosb am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogel
(1)
Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 F1, 38A neu 69 yn agored i gosb heb fod yn fwy na £3,000.
(2)
Ond nid oes unrhyw gosb i’w thalu os yw ACC yn fodlon bod unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi, ac y byddai’r cofnodion wedi eu profi, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.