Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

145Asesu cosbau o dan adran 143
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 143, rhaid i ACC

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.

(2)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 143 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person wedi methu â chydymffurfio ag adran 38 neu 69.