145Asesu cosbau o dan adran 143LL+C
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 143, rhaid i ACC—
(a)asesu’r gosb, a
(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.
(2)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 143 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person wedi methu â chydymffurfio ag adran 38 [F1, 38A] neu 69.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 145(2) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 55; O.S. 2018/34, ergl. 3
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 143-145 cymhwyswyd (1.4.2018) gan Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Trefniadau Talu’n Ôl) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/88), rhlau. 1(2), 8(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 145 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 145 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3