RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU
Swyddogaethau
15Cyfarwyddydau cyffredinol
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau o natur gyffredinol i ACC.
2
Rhaid i ACC, wrth arfer ei swyddogaethau, gydymffurfio รข chyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1).
3
Ni chaiff cyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1) ymwneud ag arfer y swyddogaethau yn adrannau 29 na 30.
4
Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1).