Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

15Cyfarwyddydau cyffredinol

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau o natur gyffredinol i ACC.

(2)Rhaid i ACC, wrth arfer ei swyddogaethau, gydymffurfio รข chyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1).

(3)Ni chaiff cyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1) ymwneud ag arfer y swyddogaethau yn adrannau 29 na 30.

(4)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1).