xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CAWDURDOD CYLLID CYMRU

SwyddogaethauLL+C

15Cyfarwyddydau cyffredinolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau o natur gyffredinol i ACC.

(2)Rhaid i ACC, wrth arfer ei swyddogaethau, gydymffurfio รข chyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1).

(3)Ni chaiff cyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1) ymwneud ag arfer y swyddogaethau yn adrannau 29 na 30.

(4)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 15 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2