152Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywirLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)os yw person yn darparu gwybodaeth anghywir, neu’n cyflwyno dogfen sy’n cynnwys anghywirdeb, wrth gydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth heblaw hysbysiad cyswllt dyledwr, a
(b)os bodlonir amod 1, 2 neu 3.
(2)Amod 1 yw bod yr anghywirdeb—
(a)yn fwriadol, neu
(b)yn deillio o fethiant ar ran y person i gymryd gofal rhesymol.
(3)Amod 2 yw bod y person yn gwybod am yr anghywirdeb ar yr adeg y darperir yr wybodaeth neu y cyflwynir y ddogfen ond nad yw’n hysbysu ACC ar y pryd.
(4)Amod 3 yw bod y person—
(a)yn darganfod yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a
(b)yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC.
(5)Mae’r person yn agored i gosb heb fod yn fwy na £3,000.
(6)Pan fo’r wybodaeth neu’r ddogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amod 1, 2 neu 3 mewn cysylltiad â hwy, mae cosb yn daladwy am bob anghywirdeb o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 152 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 152 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(d)