RHAN 5COSBAU
PENNOD 5COSBAU SY’N YMWNEUD AG YMCHWILIADAU
Cosbau o dan Bennod 5: cyffredinol
153Asesu cosbau o dan Bennod 5
1
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—
a
asesu’r gosb, a
b
dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.
2
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 146 neu 147 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb.
3
Ond mewn achos sy’n ymwneud â hysbysiad gwybodaeth y caiff person apelio yn ei erbyn, rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 146 neu 147 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diweddaraf o’r canlynol—
a
y diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb,
b
os na wneir apêl yn erbyn yr hysbysiad, diwedd y cyfnod y gellid bod wedi gwneud apêl o’r fath, ac
c
os gwneir apêl o’r fath, y diwrnod y caiff yr apêl ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.
4
Rhaid gwneud asesiad o gosbau o dan adran 150—
a
ar ddiwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod cymwys cyntaf, a
b
ar ddiwedd pob cyfnod dilynol o 7 niwrnod sy’n cynnwys diwrnod cymwys.
5
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 151 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y penderfynodd yr Uwch Dribiwnlys ei bod yn briodol gosod y gosb.
6
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 152—
a
o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth yr anghywirdeb i sylw ACC yn gyntaf, a
b
o fewn y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb.