RHAN 6LLOG
PENNOD 1LLOG AR SYMIAU SY’N DALADWY I ACC
F1...
I1I2157F4Llog taliadau hwyr ar drethi datganoledig
1
Mae’r adran hon yn gymwys i swm o dreth ddatganoledig—
a
sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth fel—
i
y dreth sydd i’w chodi, neu
ii
os yw’r ffurflen dreth yn ffurflen dreth bellach a wneir gan y prynwr mewn trafodiad tir, y dreth trafodiadau tir (neu’r dreth trafodiadau tir ychwanegol) sy’n daladwy;
b
sy’n daladwy—
i
o ganlyniad i ddiwygiad i ffurflen dreth o dan adran 41, 45 neu 50;
ii
o ganlyniad i gywiriad i ffurflen dreth o dan adran 42;
iii
yn unol ag asesiad a wnaed yn ychwanegol at ffurflen dreth o dan adran 54 neu 55, neu
c
sy’n daladwy yn unol ag—
i
dyfarniad o dan adran 52, neu
ii
asesiad o dan adran 54 neu 55,
a wnaed yn lle ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd.
F31A
Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i swm o dreth gwarediadau tirlenwi a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 49 neu 50 o DTGT.
2
Os na chaiff y swm ei dalu cyn dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—
a
sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a
b
sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.
3
Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw—
a
yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(a) neu (b), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth;
b
yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(c), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd;
F2c
yn achos swm sydd o fewn is-adran (1A), y dyddiad sy’n union ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn adran 51 o DTGT.
4
Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.
A. 157 croes-bennawd wedi ei hepgor (25.1.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 57; O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(ii)