Diwygiadau Testunol
F1A. 157 croes-bennawd wedi ei hepgor (25.1.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 57; O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(ii)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm o dreth ddatganoledig—
(a)sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth fel—
(i)y dreth sydd i’w chodi, neu
(ii)os yw’r ffurflen dreth yn ffurflen dreth bellach a wneir gan y prynwr mewn trafodiad tir, y dreth trafodiadau tir (neu’r dreth trafodiadau tir ychwanegol) sy’n daladwy;
(b)sy’n daladwy—
(i)o ganlyniad i ddiwygiad i ffurflen dreth o dan adran 41, 45 neu 50;
(ii)o ganlyniad i gywiriad i ffurflen dreth o dan adran 42;
(iii)yn unol ag asesiad a wnaed yn ychwanegol at ffurflen dreth o dan adran 54 neu 55, neu
(c)sy’n daladwy yn unol ag—
(i)dyfarniad o dan adran 52, neu
(ii)asesiad o dan adran 54 neu 55,
a wnaed yn lle ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd.
[F3(1A)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i swm o dreth gwarediadau tirlenwi a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 49 neu 50 o DTGT.]
(2)Os na chaiff y swm ei dalu cyn dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—
(a)sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a
(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.
(3)Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw—
(a)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(a) neu (b), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth;
(b)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(c), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd;
[F4(c)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1A), y dyddiad sy’n union ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn adran 51 o DTGT.]
(4)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.]
Diwygiadau Testunol
F2Aau. 157, 157A, 158 wedi eu hamnewid ar gyfer aau. 157, 158 (25.1.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 58; O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(ii)
F3A. 157(1A) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 53(2), 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
F4A. 157(3)(c) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 53(3), 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 157 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
I2A. 157 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)