Diwygiadau Testunol
F1A. 159 ac croes-bennawd wedi ei hepgor (25.1.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 59; O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(ii)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)os yw [F2person—
(i)y mae swm o dreth ddatganoledig i’w godi arno neu gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig i’w chodi arno, neu
(ii)y mae’n ofynnol iddo dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,]
yn marw cyn y daw’r swm yn daladwy, a
(b)os nad yw’r ysgutor neu’r gweinyddwr yn gallu talu’r swm cyn cael profiant neu lythyrau gweinyddu neu ddogfen arall ag iddi effaith gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth heblaw Cymru a Lloegr mewn perthynas ag ystad yr ymadawedig.
(2)Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr ar gyfer y swm hwnnw yw’r hwyraf o’r canlynol—
(a)y dyddiad a fyddai wedi bod yn ddyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr oni bai am yr adran hon, a
(b)y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â grant profiant neu lythyrau gweinyddu neu ddogfen arall ag iddi effaith gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth heblaw Cymru a Lloegr mewn perthynas ag ystad yr ymadawedig.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 160(1)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 39
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 160 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 160 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(g)