Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

161Llog ad-daliadau ar symiau sy’n daladwy gan ACCLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw swm perthnasol a dalwyd gan berson i ACC a ad-delir gan ACC i’r person hwnnw neu i berson arall.

(2)Ystyr “swm perthnasol” yw swm a dalwyd mewn cysylltiad ag unrhyw rwymedigaeth (gan gynnwys unrhyw rwymedigaeth honedig neu rwymedigaeth a ragwelir) i dalu i ACC—

(a)swm o dreth ddatganoledig, F1...

(b)swm o gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig [F2, neu

(c)swm mewn cysylltiad â chredyd treth.]

(3)Os nad ad-delir swm y mae’r adran hon yn gymwys iddo cyn dyddiad dechrau’r llog ad-daliadau, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog ad-daliadau”) ar y gyfradd llog ad-daliadau ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog ad-daliadau, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad ad-dalu.

(4)Dyddiad dechrau’r llog ad-daliadau ar gyfer y swm perthnasol yw’r hwyraf o’r canlynol⁠—

(a)y diwrnod y talwyd y swm perthnasol i ACC, a

(b)y diwrnod y daeth y swm a grybwyllir yn is-adran [F3(2)(a), (b) neu (c)], y talwyd y swm perthnasol mewn cysylltiad ag ef, yn daladwy i ACC.

(5)Mae is-adran (3)(a) yn gymwys hyd yn oed os yw dyddiad dechrau’r llog ad-daliadau yn ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn yr ystyr a roddir i “non-business day” yn adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 1882 (p. 61).

(6)Yn yr adran hon, mae i “cyfradd llog ad-daliadau” yr ystyr a roddir gan adran 163(2).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 161 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 161 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(g)