RHAN 6LLOG

PENNOD 3CYFRADDAU LLOG

I2I1163Cyfraddau llog taliadau hwyr a llog ad-daliadau

1

Y gyfradd llog taliadau hwyr yw’r gyfradd y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

2

Y gyfradd llog ad-daliadau yw’r gyfradd y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

3

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) neu (2)—

a

gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

b

naill ai bennu cyfradd llog eu hunain neu wneud darpariaeth ar gyfer pennu cyfradd (a’i newid o bryd i’w gilydd) drwy gyfeirio at gyfradd neu gyfartaledd cyfraddau y cyfeirir ati neu ato mewn rheoliadau;

c

darparu ar gyfer gostwng cyfraddau islaw, neu eu codi uwchlaw, yr hyn y byddent fel arall drwy gyfeirio at symiau penodedig neu at fformiwlâu penodedig;

d

darparu ar gyfer talgrynnu i fyny neu i lawr gyfraddau a geir drwy gyfeirio at gyfartaleddau;

e

darparu ar gyfer amgylchiadau pa fo cyfradd llog i’w haddasu neu pan na fo i’w haddasu;

f

darparu bod addasiadau i gyfraddau i gael effaith am gyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl diwrnod a bennir yn unol â’r rheoliadau mewn perthynas â llog sy’n dechrau cronni cyn y dyddiad hwnnw yn ogystal ag o’r diwrnod hwnnw neu ar ôl y diwrnod hwnnw.