RHAN 7TALU A GORFODI
Ardystio dyled
168Tystysgrifau dyled
1
Mae tystysgrif gan ACC nad yw swm perthnasol wedi ei dalu i ACC yn dystiolaeth ddigonol nad yw’r swm wedi ei dalu oni phrofir i’r gwrthwyneb.
2
Mae dogfen yr honnir ei bod yn dystysgrif o’r fath i’w thrin fel pe bai’n dystysgrif o’r fath oni phrofir i’r gwrthwyneb.